Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cofrestru busnes bwyd

Defnyddiwch y gwasanaeth yma i gofrestri Busnes Bwyd

Cofrestru eich Busnes

Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i bob safle lle mae bwyd yn cael ei storio, ei drin neu ei baratoi am elw neu'n ddielw gofrestru gyda'r Awdurdod Lleol. Nid oes ffi am gofrestru eich busnes. Gweler wedi'i hamgáu ffurflen gofrestru safle bwyd rhaid i chi lenwi a'i dychwelyd i'r Adran Iechyd Amgylcheddol ar y cyfeiriad uchod o fewn 14 diwrnod o dderbyn y llythyr hwn.

Nodwch: mae methiant i chofrestru eich busnes yn drosedd, a gellir eich erlid.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwch yn cael ymweliad heb eich hysbysu gan arolygydd diogelwch bwyd a fydd yn cynnal arolwg hylendid bwyd. Er mwyn helpu i flaenoriaethu ein hymweliadau, ac i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol am hylendid bwyd i redeg busnes llwyddiannus, llenwch yr holiadur gorfodi hylendid bwyd yn ogystal â'r ffurflen gofrestru bwyd. Os byddwch angen unrhyw gyngor neu gymorth ychwanegol, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni ar y rhifau isod.

Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gweithredu Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd gorfodol. Mae'n bwysig eich bod yn deall beth mae'r cynllun yn ei olygu i'ch busnes. Yn dilyn arolwg hylendid bwyd byddwch yn derbyn adroddiad arolwg a sticer a fydd yn eich hysbysu o'ch sgôr hylendid bwyd ac, os yn berthnasol, beth sydd angen i chi ei wneud i wella eich sgôr. Mae'n rhaid arddangos y sticer mewn lle amlwg ym mhob mynedfa, neu wrth bob mynedfa i'ch busnes bwyd a bydd eich sgôr yn cael ei gyhoeddi ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd https://www.food.gov.uk

Mae hyn yn galluogi'r cyhoedd i wybod pa mor dda yw safonau hylendid bwyd yn eich busnes a gwneud penderfyniad gwybodus wrth ddewis ble i fwyta.

Sut mae fy musnes yn cael ei sgorio?

Mae 6 haen yn y cynllun yn esgyn o 0 - 5

Yr haenau ar gyfer y cynllun sgorio yw:-

0 – Angen Gwella ar Frys
1 – Angen Gwella yn Sylweddol
2 – Angen Gwella
3 – Boddhaol ar y  Cyfan
4 - Da
5 – Da iawn

Yn dilyn eich arolwg hylendid bwyd cyntaf, bydd eich busnes yn derbyn sgôr rhifiadol fel sydd wedi'i nodi uchod. Byddwch yn cael sticer yn nodi'r sgôr a bydd hwn yn berthnasol nes arolwg nesaf y safle, yn amodol ar eich hawliau apelio a amlinellir yn y daflen sy'n cydfynd, ynghyd â'ch hawl i ymateb a gwneud cais am ymweliad ail-sgorio. Rhaid talu ffi o £150 os byddwch yn dymuno ail-sgorio eich safle rhwng arolygiadau arferol.

Nad oes angen i fasnachwyr symudol bod yn drwyddedig ond mae rhaid i bob busnes bwyd symudol bod yn gofrestredig i’r cyfeiriad lle mae’r cerbyd neu’r stôl yn cael ei chadw dros nos. Ar gyfer cerbydau neu stolau sydd yn cael ei chadw o fewn Sir Bwrdeistref Merthyr Tudful, gallwch gofrestri trwy gyflawni'r ffurflen cofrestru.

Ar gyfer cerbydau a gedwir y tu allan i Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, dylai masnachwyr gysylltu ag adran iechyd amgylcheddol yr awdurdod lleol y maent yn talu Treth Cyngor iddynt.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?