Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diogelwch bwyd rheoliadau

Mae'n ofynnol i bob busnes bwyd gofrestru gyda ni. Gallwch wneud hyn trwy lenwi'r ffurflen ar waelod y dudalen hon.

Mae nifer o gyhoeddiadau ar gael i helpu busnesau lleol a thrigolion gyda materion yn ymwneud â diogelwch bwyd.

Mae'n ofynnol i bawb sy'n trin bwyd gael rhywfaint o hyfforddiant mewn trin bwyd yn ddiogel, hylendid personol, twf bacterial a rheoli tymheredd.  Fel arfer, mae'r hyfforddiant ar gael trwy golegau lleol neu hyfforddwyr ac ymgynghorwyr preifat. Mae cyngor ar ddeddfwriaeth a'r angen am ddarpariaethau penodol yn ystod ailwampio safleoedd newydd neu rai presennol ar gael bob amser.

Gellir canfod gwybodaeth i reolwyr ar ofynion i'r rhai sy'n trin bwyd fod yn addas i'r gwaith trwy glicio ar y ddogfen ar y dde. Gellir canfod gwybodaeth debyg i weithwyr yma.

Mae canllawiau newydd ar atal croes halogiad gan E.Coli O157 wedi'u cyhoeddiad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac mae taflen ffeithiau hawdd i'w darllen hefyd. 

Mae masnachwyr bwyd symudol yn cael ei rheoleiddio yn yr un ffordd â busnesau bwyd eraill.

Lleoliadau masnachu ar gyfer busnesau symudol:

Nid ydym yn ymwneud â'r man lle mae busnes symudol yn dewis masnachu. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i fasnachwyr symudol ystyried y canlynol:

  • Yn aml, mae'r Heddlu yn gwrthwynebu i fasnachwyr osod eu hunain wrth ochr priffyrdd ac achosi rhwystr , ac maent yn eu gorfodi i symud ymlaen. Mae hyn yn cynnwys encilfeydd mawr lle gallai ciw o gwsmeriaid achosi perygl
  • Mae Adrannau eraill o fewn y Cyngor yn gwrthwynebu'n aml i fasnachu ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor, neu'n cael ei reoli gan y Cyngor. Mae'r rhain yn cynnwys llawer o dir cyhoeddus, ac fel arfer, gorfodir i fasnachwyr symud ymlaen
  • Dylid ond masnachu ar dir preifat gyda chaniatâd perchennog y tir. Gall perchennog y tir ond roi caniatâd os oes ganddynt Ganiatâd Cynllun ar gyfer y tir hwnnw. Dylai perchnogion tir drafod unrhyw ymholiadau gydag Adran Cynllunio'r Cyngor
  • Bydd masnachwyr sy'n dymuno gosod eu hunain yng nghanol tref Merthyr Tudful angen caniatâd Rheolwr Canol y Dref

Mae'r gofynion cyfreithiol i fasnachwyr symudol yr un fath â'r rheiny i weithredu busnes bwyd o sefydliad penodedig, a gellir canfod taflenni ar y gofynion cyfreithiol cyffredinol ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fodd bynnag, gellir cysylltu safleoedd symudol gyda materion penodol, a byddwch angen sicrhau:

  • Fod gan bobl sy'n trin bwyd y lefel briodol o hyfforddiant. Dylech allu darparu rhestr o bwy sy'n gweithio gyda chi ar y cerbyd neu'r stondin. Mae'n rhaid i'r rheiny sy'n trin bwyd agored risg uchel gael hyfforddiant sy'n gymesur i'w cyfrifoldebau. Dylai staff a gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â pharatoi a thrin bwyd agored risg uchel gael hyfforddiant ffurfiol i safon debyg i safon Tystysgrif Lefel 2 mewn Hylendid Bwyd. Efallai na fydd cyrsiau ar-lein yn dderbyniol. Mae'n rhaid i gopïau o dystysgrifau hylendid pob unigolyn a fydd yn gweithio ar y cerbyd/stondin fod ar gael i'w harolygu
  • Bod dŵr poeth yn cael ei ddarparu i olchi dwylo a glanhau. Mae'n rhaid darparu cyfleusterau gwahanol i olchi dwylo ac offer neu fwyd. Mae nifer o gerbydau'n gallu darparu dŵr poeth. Mae eraill yn dibynnu ar gyflenwad dŵr peipen o safleoedd cyfagos. Mae rhai cerbydau a nifer o stondinau yn dibynnu ar fflasgiau o ddŵr poeth a basnau plastig cludadwy. Dylai fflasgiau fod yn ddigon mawr i ddarparu'r holl ddŵr poeth sydd ei angen ar gyfer un diwrnod o fasnachu
  • Mae'n rhaid i gynhwysyddion a ddefnyddir i storio dŵr yfed ac ar gyfer golchi dwylo a glanhau fod yn weledol lân ar y tu allan a chael eu diheintio y tu mewn yn rheolaidd. Gweler ein Canllaw i Ddiheintio Cynhwysyddion Dŵr Symudol
  • Dylid casglu dŵr gwastraff mewn cynhwysydd addas a'i waredu yn unol â hynny. Ni ddylid arllwys dŵr gwastraff ar y llawr
  • Lle mae cerbyd yn defnyddio nwy mewn potel i goginio neu gynhesu dŵr, bydd yn ofynnol cael Tystysgrif Diogelwch Nwy ar gyfer y cerbyd. Dim ond ffitiwr nwy cofrestredig â Gas Safe a chanddo'r cymwysterau priodol i osod ac arolygu LPG mewn gweithrediadau masnachol all roi'r tystysgrif hwn. Gellir canfod cofrestr Gas Safe trwy glicio ar y cyswllt i wefan Gas Safe.  Mae'n rhaid i silindrau nwy hylif petrolewm ddod gyda rheoleiddwy pwysedd priodol

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?