Ar-lein, Mae'n arbed amser

Chwiliad pridiannau tir lleol

HYSBYSIAD PWYSIG

O Orffennaf 19 2022 ni fyddwn yn darparu gwasanaeth chwilio pridiannu lleol.

Yn dilyn y dyddiad hwn, bydd y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol wedi symud i gofrestr genedlaethol Cofrestrfa Tir EM. Byddwch yn gallu mynd at y gwasanaeth digidol newydd trwy Portal, Porth Busnes ac ar dudalenau Cofrestrfa Tir EM GOV.UK.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn parhau i ddarparu ymatebion ymholiadau Con29.

Mae’n bwysig cofio ond i anfon y ffi o £90.00 (preswyl) £96.00 (masnachol) wrth gyflwyno ymholiad CON29 atom ar ôl Gorffennaf 19 2022

Am fwy o wybodaeth ewch at GOV.UK

Mae Cofrestr Pridiannau Tir Lleol Cofrestrfa Tir EM yn datgelu unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol a allai effeithio ar dir neu eiddo ym Merthyr Tudful.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn dal i gynnal chwiliadau tir ac eiddo Awdurdod Lleol trwy geisiadau CON29 a CON29O:

Beth yw chwiliad Awdurdod Lleol?

Mae chwiliad Awdurdod lleol yn cynnwys dwy ran a Ffurflen Opsiynol am ymholiadau pellach:

Mae CON29R yn delio gyda materion fel cynlluniau ffordd, hanes cynllunio yr eiddo a materion amgylcheddol.

Mae CON29O yn ffurflen opsiynol yn delio gydag ymholiadau pellach a all ddelio yn benodol gyda’r tir/eiddo yn cael ei archwilio.

Faint mae Archwiliad Awdurdod Lleol yn ei gostio?

  Preswyl Masnachol
CON29R £75.00 (a TAW) £80.00 (a TAW)
Cyfanswm £90.00 £16.00
CON29O    
Ymholiadau 4 - 21 £11 (a TAW) £11 (a TAW)
Ymholiad 22 £16 (a TAW) £16 (a TAW)

Pwy sy’n gallu gwneud cais am chwiliad CON29R a CON29O?

Fel arfer derbynnir ceisiadau am chwiliad gan y cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig sy’n gweithredu ar ran prynwr yr eiddo ond gall unrhyw un ofyn am chwiliad trwy gyflwyno’r ffurflenni cywir. Mae'r ffurflenni ar gael gan ddogfenwyr cyfreithiol. 

Ydw i’n gallu archebu ymholiad unigol gan y CON29R?

Na – Ni ellir rhannu CON29R yn ymholiad unigol- rhaid cyflwyno cais yn llawn gyda’r ffi briodol.

Pa mor hir fydd hi’n gymryd i brosesu fy chwiliad?

Rydym yn anelu i ddychwelyd chwiliad o fewn saith diwrnod gwaith ond yn ystod adegau prysur, gall chwiliad gymryd yn hirach. Fe wnawn ein gorau i’ch hysbysu oes oes oedi yn debygol.

Faint o ffurflenni sydd angen eu cyflwyno?

Dim ond un ffurflen CON29R (ac un CON29O os yn briodol). Does dim angen mwy nag un copi.

Oes angen danfon cynlluniau o’r eiddo?

Oes – rydym angen cynllun gyda’r eiddo i gael ei chwilio wedi ei nodi yn amlwg.

Alla i gyflwyno y ffurflenni ar e-bost?

Gallwch – hon yw’r ffordd ddewisol o gyflwyno sy’n cyflymu y broses ac yn lleihau amser dychwelyd.

Anfonwch CON29 a chynllun at LandCharges@merthyr.gov.uk   
Gellir gwneud taliad trwy BACS.  Gofynnwch am fanylion banc wrth wenud cais. Bydd y chwiliad wedi ei chwblhau yn cael ei hanfon at y cyfeiriad e-bost a nodir ar y ffurflen.

Alla i archebu chwiliad ar-lein?

Gallwch anfon chwiliadau atom ar-lein trwy byrth chwilio electronig fel y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (NLIS), TM Search Choice ac InfoTrack . Cwmnïau yw'r rhain sy'n darparu gwasanaeth electronig ar gyfer chwiliadau Awdurdod Lleol a gwybodaeth arall am drawsgludo tir ac eiddo. Gweler y dolenni ar ochr y dudalen hon am ragor o wybodaeth.

A fydd yr ateb gwybodaeth ffyrdd yn y CON29 yn dweud wrthyf os caiff yr holl ffyrdd sy'n ffinio â'm heiddo eu mabwysiadu?

Bydd ein hateb chwiliad ond yn cyfeirio at y ffordd a enwir yng nghyfeiriad yr eiddo a roddir ym Mlwch 'B' o'r CON29. Os dymunwch gael gwybodaeth am unrhyw ffyrdd eraill sy'n ffinio â'ch eiddo bydd angen i chi eu henwi ym Mlwch 'C' a'u nodi'n glir ar eich cynllun chwilio.

Ydw i'n anfon fy Chwiliad Cofrestru Tir Comin atoch chi?

Ydych - bydd angen i chi ddarparu ffurflen Ymholiad Dewisol CON29, gan dicio Ymholiad Rhif 22. Y ffi am hyn yw £16 (ynghyd â TAW).