Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Storio Ffrwydron

Bydd angen trwydded arnoch gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful os ydych am storio ffrwydron gan gynnwys tân gwyllt ar gyfer oedolion sydd yn cynnwys hyd at 2,000 kg net o gynnwys ffrwydrol (NEC.)

Os ydych am storio mwy na dwy dunnell o ffrwydron, dylech wneud cais i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am drwydded.

Sut ydych yn cael trwydded er mwyn storio tân gwyllt?

Os ydych am storio mwy na 5 kg a llai na 2,000 kg net o gynnwys ffrwydrol (NEC) o dân gwyllt ar gyfer oedolion, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais.

Ffurflen Gais

Wedi i chi ei chwblhau, dylech ddychwelyd y ffurflen a’r ffi briodol (gweler isod,) cynllun o’r safle a lle’n berthnasol, cynllun llawr.

Gall cais gael ei wrthod os yw’r safle storio yn anaddas ar sail diogelwch neu os nad oes tystiolaeth i awgrymu nad yw’r ymgeisydd yn unigolyn cymwys i storio tân gwyllt neu ffrwydron.

Ar y ffurflen gais, bydd angen i chi nodi'r ‘math o berygl’ a faint o gynnwys ffrwydrol yr ydych yn bwriadu ei storio. Mae tân gwyllt yn cael eu rhannu’n bedwar math o berygl (HT1, HT2, HT3 a HT4) ar gyfer bwriadau trwydded storio. Nid yw HT1 a HT2 yn addas ar gyfer storio manwerthu a chyfyngir ar y maint o HT3 a HT4 fel a ganlyn:

• gallwch storio hyd at 250 kg o dân gwyllt HT4 mewn adeilad addas heb fod angen iddynt fod ar wahân o adeiladau eraill neu leoedd sydd â mynediad i’r cyhoedd
• mae cyfyngiad o 25 kg ar dân gwyllt HT3 neu gyfuniad o dân gwyllt HT3 a HT4 mewn adeilad addas heb fod angen iddynt fod ar wahân o adeiladau eraill neu leoedd sydd â mynediad i’r cyhoedd
• pan fydd llety cysgu'r drws nesaf i stordy tân gwyllt, dim ond 75 kg o dân gwyllt HT4 ellir ei storio
• er mwyn storio mwy na 250 kg o dân gwyllt HT4 neu storio mwy na 25 kg o dân gwyllt HT3 hyd at uchafswm o 2,000 kg mae angen adeilad addas sydd ar wahân o adeiladau eraill neu leoedd sydd â mynediad i’r cyhoedd

Dylech ofyn am gyngor gan eich darparwr ynghylch addasrwydd y tân gwyllt yr ydych yn bwriadu eu storio a’u gwerthu. Mae storio tân gwyllt  HT3 yn cyfyngu faint o dân gwyllt y gallwch eu storio ar safle manwerthu cyffredin. Am ragor o wybodaeth ynghylch Gwerthu Tân Gwyllt, ewch i’n tudalen Gwerthu Tân Gwyllt.

Ffioedd

Ffioedd trwydded ffrwydron – storio hyd at 250kg NEQ

Hyd Caid Newydd Adnewyddu
1 mlynedd £119 £59
2 flynedd £154 £94
3 blynedd £190 £132
4 blynedd £226 £166
5 mlynedd £260 £202

 

Ffioedd trwydded ffrwydron – storio rhwng 250kg a 2,000kg NEQ

Hyd Cais Newydd Adnewyddu
1 mlynedd £202 £94
2 flynedd £266 £161
3 blynedd £333 £226
4 blynedd £409 £291
5 mlynedd £463 £357

Nodwch, y bydd ceisiadau newydd, fel arfer yn cael eu dyfarnu am 1 mlynedd. Gallai ceisiadau adnewyddu gael eu dyfarnu am gyfnodau hwy, yn ddibynnol ar hanes y cydymffurfiad.

Sut ydych yn storio ac yn gwerthu tân gwyllt yn ddiogel?

Mae’r maes hwn yn cael ei gynnwys yn Rheoliadau Ffrwydron 2014.

Bydd eich awdurdod lleol yn rhoi cyngor i chi ar storio a gwerthiant diogel tân gwyllt. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau ar werthu tân gwyllt ar ei wefan. Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys rhestr wirio asesiad risg.

Os nad oes gennych stordy i’w ddefnyddio’n benodol ar gyfer storio tân gwyllt, dylai tân gwyllt categori F2 a F3 gael eu storio oddi ar safle’r siop neu eu cadw naill ai:

Yn bell o’r ardal; gwerthu yn eu pecynnau cludiant caeedig mewn cwpwrdd atal tân, cynhwysydd neu mewn cawell addas
... neu

• mewn cwpwrdd arddangos addas (mae maint yr ardal manwerthu yn pennu uchafswm y swm o dân gwyllt y gellir eu storio ar lawr y siop.)

Rhagor o Wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar GOV.UK: fireworks manufacture and storage licences a Health and Safety Executive (HSE): fireworks.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch yn ymwneud â gwerthiant Tân Gwyllt, cysylltwch â’r Tîm Safonau Masnach ar 01685 725000.

Cysylltwch â Ni