Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cofrestru tatŵs, tyllu ac electrolysis

I wneud tatŵs, tyllu cosmetig, micropigmentio ac electrolysis, rhaid i’r safle a’r person sy’n gwneud y gwaith fod yn gofrestredig gyda’r Cyngor.

Mae hwn yn wasanaeth lle mae ffi neu dâl.

Am wybodaeth ar ffioedd presennol a thaliadau gweler ein tudalen Ffioedd Iechyd Amgylcheddol a Thaliadau.

Gellir argraffu ffurflen gofrestru trwy glicio ar y ddolen ar ochr dde’r dudalen hon. Amlinellir y ffi gofrestru ar waelod y ffurflen gofrestru. Nid oes angen cofrestru os yw’n cael ei wneud dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol cofrestredig.

Pwrpas cofrestru yw atal heintio’r un y mae’i groen yn cael ei dyllu. Rhaid i bersonél a safleoedd tyllu croen cofrestredig gydymffurfio ag is-ddeddfau a ddyluniwyd i atal haint.

Mae rhestr o bobl a safleoedd sy’n gwneud tatŵs sy’n gofrestredig ym Merthyr Tudful ar gael trwy glicio ar y ddolen briodol ar ochr dde’r dudalen hon. Rhoddir cyngor hefyd i unrhyw un sy’n ystyried cael tatŵ.

Mae cyngor ac arweiniad ar arfer diogel ar gyfer pobl sy’n gwneud tatŵs, tyllu’r corff a micropigmentio ar gael i’w lawr lwytho nawr.* Mae’r arweiniad sydd ar gael trwy glicio ar ochr dde’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am ofynion sylfaenol safle diogel a glân, materion cyfreithiol, cael gwared ar wastraff, rheoli heintiau, cyngor ar ôl-ofal a rhestr wirio gyflym. Mae atodiadau ymhob dogfen hefyd yn cyflwyno enghreifftiau o sut y gellir paratoi holiaduron hanes meddygol, ffurflenni caniatâd a thaflen cyngor ar ôl-ofal am bob un o’r tri mas triniaeth.

Datblygwyd y dogfennau arweiniad hyn gan Gyngor Calderdale a rhoddwyd eu caniatâd hael i’w darparu yma.

 

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?