Ar-lein, Mae'n arbed amser

Delwyr Metel Sgrap

Cyflwynwyd Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 i fynd i’r afael â chynnydd mewn lladrata metel, sy’n gallu arwain at gryn aflonyddwch, cost ac ypset yn ein cymunedau. Gofynnir i breswylwyr sydd am gael gwared ar eitemau metel sgrap ddefnyddio Deliwr Metel Sgrap trwyddedig yn unig. Ceir rhestr o unigolion a busnesau trwyddedig yma:

https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/check-for-a-permit-licence-or-exemption/?lang=cy

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am gasglwyr sgrap didrwydded gallwch roi gwybod amdanynt yn gyfrinachol yma https://www.merthyr.gov.uk/business/trading-standards/report-a-trading-standards-issue/

Gwneud cais am Drwydded

Mae’n ofynnol bod pob Deliwr Metel Sgrap a Gweithredwyr Arbed Moduron yn meddu ar Drwydded Deliwr Metel Sgrap.

Trwydded y safle

Os yw delio mewn metel sgrap yn digwydd yn eich busnes yna mae angen i chi fod yn ddeiliad trwydded safle. Mae hefyd angen i reolwr safle gael ei enwi ar gyfer pob safle. Mae’r drwydded hon yn galluogi’r trwyddedai i gludo metel sgrap yn ôl ac ymlaen o’r safleoedd hynny o unrhyw ardal o’r awdurdod lleol.

Trwydded y casglwr

Os ydych chi’n casglu metel sgrap mae angen i chi gael trwydded casglwr. Mae angen i chi gael trwydded ar wahân ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yr ydych yn casglu oddi wrthi. Nid yw’r drwydded yn rhoi awdurdod i chi weithredu safle.

Dim ond un math o drwydded all deliwr metel sgrap ei gael mewn unrhyw un ardal awdurdod lleol. Mae’r drwydded yn ddilys am 3 blynedd.

Ffurflen Gais a Chanllaw

Cais am Drwydded Metal Sgrap

Nodiadau Canllaw Cais am Drwydded Delwyr Metel Sgrap

Newidiadau ar gyfer ceisiadau am drwyddedau tacsi, hurio preifat neu fetel sgrap o fis Ebrill 2022 ymlaen

Cwblhau gwiriad treth ar gyfer trwydded tacsi, hurio preifat neu fetel sgrap

Cysylltwch â Ni