Ar-lein, Mae'n arbed amser

Busnes - ymgyrch band eang

Superfast Cymru

Bydd preswylwyr a busnesau ym Mwrdeistref Merthyr Tudful ymhlith y cyntaf yng Nghymru i elwa ar y rhaglen arloesol gwerth miliynau o bunnoedd Superfast Cymru, sy’n dod â band eang ffibr ledled y wlad i Gymru.

Band eang ffibr yw’r genhedlaeth nesaf o fand eang – mae llawer yn gyflymach, yn fwy dibynadwy ac mae’n defnyddio technoleg wahanol.

Caiff band eang traddodiadol ei gludo trwy linellau ffôn copr, ond mae band eang ffibr yn defnyddio ceblau ffibr optig.

Bydd grym gan hyn i drawsffurfio bywyd, gwaith a chwarae dinasyddion Bwrdeistref Merthyr Tudful. Yn ogystal, bydd band eang uwchgyflym yn rhoi hwb i’r economi leol gan alluogi busnesau i weithio’n fwy effeithiol mewn ffyrdd newydd a chyrraedd cwsmeriaid newydd.

Rhoi’r rhaglen ar waith

Mae ffibr eisoes ar gael mewn rhannau o ardaloedd cyfnewidfa Merthyr Tudful, Bedlinog ac Ynysowen ac mae’r lledaeniad yn parhau yn y lleoliadau hyn dan y rhaglen Superfast Cymru ac erbyn diwedd Haf 2014 bydd y mwyafrif o gartrefi a busnesau’n gallu cael mynediad i fand eang ffibr cyflym. Bydd y pedair cyfnewidfa ffôn sy’n gwasanaethu Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cael eu huwchraddio dan y rhaglen Superfast Cymru.

Ardaloedd o Ferthyr Tydfil, Bedlinog ac Ynysowen yw’r cymunedau cyntaf ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gael mynediad at y gwasanaeth newydd hwn o ganlyniad i’r rhaglen. Bydd cymunedau eraill a wasanaethir gan gyfnewidfa ffôn Trelewis yn dilyn ym mis Mehefin 2014. Bydd lledaeniad ffibr yn parhau am sawl mis a dylai fod yn gyflawn ym Mwrdeistref Merthyr Tudful erbyn mis Mawrth 2015. Bydd Rhaglen Superfast -Cymru yn parhau tan 2016.