Ar-lein, Mae'n arbed amser

Teulu

Mae gennym amrywiaeth o wasanaethau i helpu i greu teuluoedd cryf, gan roi’r cyfle iddynt gael mynediad at gefnogaeth ble y bo’i angen ond, hefyd, i rannu profiadau gyda’n gilydd!

Gwasanaeth Gwybodaeth i’r Teulu

Siop un stop ar gyfer gwybodaeth ar ofal plant, pethau i’w gwneud a’r digwyddiadau diweddaraf. Ceir gwybodaeth am fynediad at waith a hyfforddiant a gallwch hefyd sicrhau manylion am gefnogaeth rhianta a chyngor penodol i blant sy’n anabl neu ag anghenion arbennig.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i’r Teulu
Ffôn: 01685 727400
E-bost: FIS@merthyr.gov.uk

Cefnogaeth i’r Teulu

Gallech elwa o brydau ysgol am ddim a Lwfans Dillad
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein gwefan Budd-daliadau a Grantiau

Gofalwyr a Gofalwyr Ifanc

Mae bod mewn teulu yn golygu gofalu am eich gilydd, ond pryd mae gofalu yn eich gwneud yn ofalwr? Y mae’n swydd bwysig ac un y mae’n bosibl bod angen cefnogaeth i’w chyflawni - hyd yn oed os yw ond i gwrdd â gofalwyr o’r un meddylfryd a gwneud ffrindiau o bryd i’w gilydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein Gwefan Gofalwyr.

Diogelu

Un o rolau mwyaf pwysig y Cyngor yw sicrhau fod y rhai mwyaf agored i niwed, yn cynnwys plant a phobl hŷn yn cael eu diogelu rhag niwed ac ecsbloetiaeth. Os ydych wedi bod neu yn parhau i fod yn ddioddefwr o gam-drin, neu os wyddoch am rywun yr ydych yn meddwl sy’n cael ei gam-drin, ewch i Gwefan Bwrdd Diogelu Cwm Taf am ragor o wybodaeth am bwy y dylech gysylltu ag ef/hi.

Gwasanaeth Gwrando Mewn

Mae’r gwasanaeth ‘Gwrando Mewn’ yn wasanaeth newydd a gyflenwir gan CAIS ac AVOW, i gefnogi'r rôl sylweddol mae teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr cyn-filwyr yn ei chwarae i hyrwyddo adferiad o broblemau sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth milwrol a’r pontio i fywyd sifil. Mae timau Gwrando Mewn yn darparu hyfforddiant cymorth cyntaf ar iechyd meddwl a chymorth ymarferol i deuluoedd a ffrindiau cyn-filwyr ledled Cymru.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.changestepwales.co.uk

Gwasanaethau i Bobl Ifanc

Cynnig byd o bethau i bobl ifanc eu mwynhau sydd am ddim, yn ymgysylltiol ac yn cyfoethogi. Mae hyn yn cynnwys chwaraeon all-gwricwlaidd a gweithgareddau mor amrywiol â gweithdai DJ a sgiliau syrcas, gweithwyr ieuenctid datgysylltiedig mewn cymunedau, clybiau ieuenctid, disgos penwythnos, heriau Dug Caeredin, rhoi’r cyfleoedd ehangaf posibl.
Am ragor o wybodaeth ewch i’n www.wicid.tv