Ar-lein, Mae'n arbed amser

Canllawiau Cyfryngau Cymdeithasol Cymunedol

Os gwelwch yn dda, darllenwch ganllawiau’r gymuned, sydd ar waith er mwyn cadw pobl yn ddiogel.

Cyflwyniad
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful rydym yn defnyddio’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol fel gofod ar gyfer gwybodaeth a chyhoeddiadau swyddogol i’r sawl sy’n byw, sy’n gweithio ac sy’n diddori mewn dysgu rhagor am Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Mae ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu rheoli a’u diweddari gan y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol, sy’n cydlynu ac yn cymedroli’r cynnwys a’r sylwadau.

Hoffai’r Cyngor fod preswylwyr yn ymwybodol o negeseuon a phenderfyniadau allweddol sy’n effeithio arnynt. Mae ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi eu dylunio i fod yn ofod hygyrch lle gall preswylwyr weld ac ymddiddan â’r wybodaeth hon.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gofal i sicrhau bod ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ofod diogel i bob un aelod o’r gynulleidfa. Rhaid i’r Cyngor sicrhau bod yr holl gynnwys yn addas.

Os gwelwch yn dda, darllenwch ganllawiau’r gymuned, sydd ar waith er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Os fydd unrhyw ddiffyg parch neu amharodrwydd i ddilyn unrhyw un o’r canllawiau hyn, bydd y Cyngor yn gweithredu’n syth bin.

Canllawiau’r Gymuned

1) Peidiwch â gwneud ymosodiadau sydd wedi eu targedi neu sy’n bersonol. Ni fydd unrhyw gyfathrebu camdriniol, ymfflamychol neu amhriodol (trolio) yn cael ei oddef a bydd yn arwain at waharddiad ar unwaith.

2) Peidiwch â phostio cynnwys sy'n wahaniaethol, yn anweddus, yn ymfflamychol, yn aflonyddu, yn gas, yn fygythiol, yn halogedig neu'n sarhaus yn bersonol.

3) Peidiwch â phostio unrhyw beth a allai fod yn enllibus neu'n ddifenwol.

4) Peidiwch â phostio cynnwys sy'n amhriodol neu'n benodol rhywiol.

5) Peidiwch â phostio dro ar ôl tro am faterion amherthnasol h.y. sbam.

6) Peidiwch â dynwared unrhywun na defnyddio cyfrif dienw.

7) Peidiwch â thrafod achosion cyfreithiol sydd ar y gweill.

8) Peidiwch â phostio sylwadau gwleidyddol / hyrwyddo gwleidyddiaeth na defnyddio ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer dadl wleidyddol.

Bydd torri’r rheolau hyn yn arwain at y Cyngor yn dileu eich neges ac yn atal eich cyfrif, heb rybudd, rhag cael ei ddefnyddio ar ein cyfrifon cymdeithasol ni. Mewn achosion difrifol, gallwn hysbysu’r heddlu am eich neges neu eich cyfrif.

Cyfnodau cyn-etholiad
Nid yw ein cyfrifon yn wleidyddol, a gofynnwn i ddefnyddwyr barchu’r ffaith hon a deall nad ydym yn gallu ymwneud â thrafodaethau gwleidyddol. Yn y chwe wythnos sy’n arwain at etholiad (Lleol, Seneddol neu Etholiadau Cyffredinol) mae’n rhaid i gynghorau fod yn arbennig o ofalus i beidio â gwneud na dweud unrhyw beth a allai gael ei ystyried fel ymgais gennym i estyn cefnogaeth at unrhyw blaid wleidyddol neu unrhyw ymgeisydd chwaith. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bosib y bydd yn rhaid i ni gael gwared ar negeseuon a sylwadau os ydynt yn cael eu dehongli fel sylwadau sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth bleidiol neu os ydynt yn ymfflamychol.

Cyfrifon y Cyfryngau Cymdeithasol
Cymedrolir ein cyfrifon Facebook, X, Instagram, LinkedIn a Tik Tok ar ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen i chi roi gwybod.i ni am ymddygiad anaddas, cysylltwch â socialmedia@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni