Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwybodaeth Ariannol
Mae’r Cyngor yn gweithredu gwasanaeth cymorth Cyfrifyddiaeth canolog ac mae’r Adran Gyfrifyddiaeth yn gyfrifol am yr holl ddyletswyddau cyfrifyddiaeth statudol.
Amcanion
Darparu gwybodaeth a chyngor ariannol dibynadwy, amserol ac ystyrlon i holl wasanaethau a rhanddeiliaid Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful er mwyn eu helpu i gyflawni’u hamcanion unigol a chorfforaethol, gan gydymffurfio â deddfwriaeth y Llywodraeth i sicrhau y cyflawnir gofynion statudol ariannol.
Cyfrifoldebau
Mae prif gyfrifoldebau’r Adran yn cynnwys:
- Cydlynu proses gyllidebol flynyddol y Cyngor Bwrdeistref Sirol, gan gynnwys perthynas waith agos â phob gwasanaeth yr Awdurdod. Mae hyn yn cynnwys y Rhaglen Brasamcanion Refeniw a’r Rhaglen Gyfalaf.
- Datblygu a monitro Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor Bwrdeistref Sirol.
- Llunio a chynhyrchu datganiadau monitro cyllidebol refeniw a chyfalaf. Paratoir adroddiadau misol ar gyfer Rheolwyr Gwasanaeth a’r Bwrdd Cyllideb ac adroddir ar ddatganiadau chwarterol i gyfarfodydd cyhoeddus ffurfiol Cabinet y Cyngor.
- Cau cyfrifon ariannol blynyddol y Cyngor gan gynnwys cyhoeddi’r Datganiad Cyfrifon blynyddol. Caiff y ddogfen gyhoeddus hon sy’n amlinellu iechyd ariannol y Cyngor ei gyflwyno i Aelodau etholedig y Cyngor ac mae’n destun craffu gan archwilwyr allanol y Cyngor.
- Llunio a chyhoeddi Datganiad Polisi Rheoli Trysorfa flynyddol y Cyngor a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol lle caiff gweithgareddau rheoli llif arian y Cyngor, bancio, a thrafodaethau’r farchnad arian a’r farchnad gyfalaf eu diffinio.
- Cynnal a diweddaru systemau rheoli ariannol, strwythur codio ariannol a system rheoli asedau’r Cyngor.
- Cwblhau hawliadau grant statudol a llenwi ffurflenni ystadegol ariannol o ran cyrff llywodraethol ac anllywodraethol gan sicrhau bod yr arian posibl mwyaf ar gael i’r Cyngor.
- Cynrychiolaeth ar Weithgorau Corfforaethol y Cyngor i adrodd ar faterion ariannol, gan gynnwys y Bwrdd Cyllideb a’r Bwrdd Rhaglen Drawsffurfio.
- Gweinyddu gweithdrefnau ariannu a gweithredu prydlesu cerbydau ac offer y Cyngor.
- Amddiffyn diogelwch ariannol y Cyngor trwy weinyddu hawliadau yswiriant a gyflwynir yn effeithlon ac yn broffesiynol, gan sicrhau bod gwybodaeth reoli o safon ar gael ar gyfer dadansoddi a sicrhau ymdriniaeth ddigonol yn y strategaeth yswiriant a ddiffinnir.