Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf

Gwybodaeth Gefndir

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn rhoi diben cyffredin sy’n gyfreithiol rwymol i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal drwy gyfrannu at gyflawni’r 7 nod llesiant cenedlaethol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (y Ddeddf) yn gosod dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus penodol gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, gwasanaethau tân ac achub a Chyfoeth Naturiol Cymru i weithredu ar y cyd drwy BGCau.

Mae gofyn i BGCau:

  • asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd (yr Asesiad Llesiant);
  • defnyddio'r asesiad hwnnw i osod amcanion llesiant lleol (y Cynllun Llesiant); a
  • gweithredu gyda'n gilydd i gyflawni'r amcanion hynny

Er mwyn lleihau dyblygu a galluogi cydweithio mwy effeithiol i wella llesiant pobl yn ardal Cwm Taf Morgannwg, mae’r ddau Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sydd ar waith ar hyn o bryd o fewn yr ôl troed (Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr) wedi bwrw ymlaen ag uno i greu BGC newydd ar gyfer ardal Cwm Taf Morgannwg. Bydd yr uno hwn yn galluogi’r BGC i alinio ag ôl troed y bwrdd iechyd, yn ogystal â bod yn gyffiniol ag uned reoli sylfaenol ‘Morgannwg Ganol’ Heddlu De Cymru.

Trefniadau craffu

Er mwyn sicrhau atebolrwydd democrataidd y BGC, mae gofyniad statudol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a chanllawiau statudol cysylltiedig ar gyfer Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol ddynodedig yr awdurdod perthnasol i graffu ar waith y BGC.

Gellir gweld yr holl agendâu ac adroddiadau ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (fel gweinyddwyr y pwyllgor hwn) gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: https://rctcbc.moderngov.co.uk/mgCommitteeDetails.aspx?ID=243&LLL=1

Cysylltwch â Ni