Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cais Rhyddid Gwybodaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i fod yn agored yn ei weithrediadau. I’r diben hwn, mae’n gweithio i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i’r cyhoedd. Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi hawl mynediad i’r cyhoedd i’r wybodaeth sydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a gall y cyhoedd gael copïau o’r wybodaeth hon hefyd.

Mae Cofnod Datgeliadau y Cyngor yn rhestru ein hymatebion i geisiadau blaenorol dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd ehangach. Cyn cyflwyno cais newydd edrychwch ar y cofnod datgeliadau i gadarnhau nad yw’r cais wedi’i ateb eisoes.

Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn ei cheisio yn ein cofnod datgeliadau, gallwch gyflwyno cais yn syth i’r Cyngor.

Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig a chael ei gyfeirio’n syth i’r Cyngor. Rhaid i bob cais am wybodaeth gynnwys y canlynol:

Enw cyswllt, rhif ffôn a chyfeiriad i anfon yr ateb ato.

Digon o wybodaeth a fydd i nodi’r union wybodaeth y mae gofyn amdani’n hawdd. Pan nad yw cais yn nodi’n glir pa wybodaeth y gofynnir amdano, byddwn yn gofyn am eglurhad pellach.

Ffafriaeth o ran sut i roi’r wybodaeth i chi, er enghraifft ar ffurf bapur, yn electronig ac ati.

Defnyddiwch y ffurflenni electronig ar ochr dde’r dudalen i gyflwyno cais. Gallwch hefyd e-bostio’ch cais yn syth at y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth ar FOI@merthyr.gov.uk. Fel arall anfonwch eich ceisiadau trwy’r post at y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Pan fyddwn yn cael eich cais mae galw arnom i ymateb ymhen 20 niwrnod gwaith.

Derbyn yr wybodaeth

Er y byddwn bob tro yn rhoi’r wybodaeth lle bo’n bosibl, bydd adegau pan fydd rheswm dilys dros fethu â’i rhoi. Gall fod oherwydd nad yw’r wybodaeth gennym y gofynnwyd amdani, neu fod un o’r eithriadau a nodir yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn gymwys.

Os yw hyn yn wir byddwn yn cyflwyno esboniad ysgrifenedig llawn am y rheswm dros fethu â rhoi’r wybodaeth. Am ragor o wybodaeth am yr eithriadau ewch i’r drefn eithrio yn yr adran dolenni dogfennau ar ochr dde’r dudalen we hon.

Cysylltwch â Ni