Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rheoli Perfformiad a Data Awdurdid Lleol

Ar gyfer pob awdurdod lleol, mae rheoli perfformiad a defnyddio data yn allweddol. Gall defnyddio data mewn ffordd briodol a chywir helpu awdurdodau lleol i lywio eu gweithredoedd yn well, cynllunio ar gyfer y dyfodol a gwella canlyniadau i breswylwyr. Mae defnydd effeithiol o ddata yn un o nifer o ffyrdd y gall awdurdodau lleol gymryd cyfrifoldeb am eu perfformiad eu hunain. Gall hefyd gynorthwyo’r cyhoedd a’r Llywodraeth i ddwyn darparwyr gwasanaethau i gyfrif gan sicrhau yr ymatebir i anghenion lleol gyda’r Cyngor yn parhau i weithio i sicrhau gwerth am arian.

Ar y dudalen hon, bydd gennych fynediad i lawer o ffynonellau data sydd ar gael yn gyhoeddus yn manylu ar elfennau amrywiol o berfformiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Byddwch yn gallu dod o hyd i ddata ar lawer o faterion megis iechyd, cyflogaeth a'r amgylchedd.

Rydym wedi cryfhau ein dealltwriaeth o berfformiad a rheolaeth ar draws y Cyngor ac rydym wedi nodi nifer o ffyrdd y gallwn gynnwys pobl wrth i ni ail-ganolbwyntio ar brosesau cyfredol gyda’r bwriad o’u gwella. Rydym wedi datblygu strwythur cyflawni sy’n gwneud pethau’n gliriach o ran monitro ac adrodd yn ôl a byddwn yn parhau i ddatblygu’r offer rydym yn eu defnyddio i fesur a rheoli perfformiad. Bydd y ddogfen ganlynol yn amlinellu’r haenau o ddarpariaeth gwasanaethau sefydliadol - 

Haenau Darpariaeth

Gallwch ddysgu mwy am weledigaeth, blaenoriaethau a gwerthoedd  y Cyngor yn ein Datganiad o Lesiant a’n Cynllun Llesiant Corfforaethol.  Fel rhan o ddatblygiad y Cynllun Lleisiant Corfforaethol cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu i sicrhau bod llais pobl leol yn cael ei glywed ac i ystyried y negeseuon. I ddarganfod mwy, edrychwch ar y Ddogfen Adborth Ymgysylltu

Rydym yn gwerthuso ein perfformiad a sut allwn wella yn flynyddol yn ein Hunan werthusiad Corfforaethol.

Data Cymru

Gosod data a hysbysrwydd wrth galon darpau gwasanaethau cyhoeddus.

Dangosfwrdd 'Proffiliau Ward' (Data Cymru)

Mae'r dangosfwrdd hwn yn gadael i chi ddod o hyd i wybodaeth am eich ward chi o Gyfrifiad 2021.

Info Base Cymru

Data ar gyfer Cymru ddeallus.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae'r data arbenigol diweddaraf ar bynciau gan gynnwys ystadegau'r farchnad lafur, ffigurau poblogaeth, a data hanesyddol y cyfrifiad ar gael ar Nomis.

Cyfrifiad 2021

Caiff y cyfrifiad ei gynnal bob deng mlynedd.  Mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.

NOMIS

Ystadegau swyddogol y cyfrifiad a'r farchnad lafur.

Stats Cymru

Mae Stats Cymru yn wasaenaeth ddi-dal i'w ddefnyddio, sy'n caniatau i chi weld, defnyddio, creu a lawr lwytho tablau data ar gyfer Cymru.

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Gall gwireddu dyfodol iachach i Gymru cael ei wireddu trwy ddefnyddio tystiolaeth gyfredol, gywir a pherthnasol.  Mae lechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi data a thystiolaeth ar ystod o bynciau iechyd cyhoeddus.

Gofal Cymdeithasol Cymru

Porth data gofal cymdeithasol cenedlaethol Cymru.

Fy Ysgol Leol

Rhannu gwybodaeth am ysgolion leol.

 

Darperir dolenni allanol ar gyfer dibenion gwybodaeth yn unig. Ni all y cyngor dderbyn cyfrifoldeb am gynnwys sydd ar y gwefannau hyn. Nid eiddo’r Cyngor yw’r wybodaeth hon, felly mae’n bosib na fydd opsiynau dwyieithog ar gael.

Cysylltwch â Ni