Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cwcis
Pan fyddwch yn defnyddio Gwefan CBSMT, bydd CBSMT yn storio cwcis ar eich cyfrifiadur er mwyn hwyluso ac addasu’ch defnydd o’n gwefan. Ffeiliau testun bychan yw cwcis sydd wedi eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau yr ydych yn ymweld â hwy. Maent yn cael eu defnyddio’n helaeth er mwyn sicrhau fod gwefannau’n gweithio neu’n gweithio’n fwy effeithiol yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y safle. Mae CBSMT yn defnyddio cwcis er mwyn darparu gwybodaeth anhysbys ar sut y mae pobl yn defnyddio’n gwefan ac i’n cynorthwyo i ganfod yr hyn sydd o ddiddordeb neu sydd yn ddefnyddiol iddynt ar ein gwefan. Nid yw CBSMT yn storio gwybodaeth bersonol fel cyfeiriadau e-bost neu fanylion eraill mewn cwci.
Mae’r rhan fwyaf o borwyr wedi eu gosod er mwyn derbyn cwcis. Os nad ydych am dderbyn cwcis, efallai y bydd fodd i chi newid gosodiadau eich porwr er mwyn gwrthod pob cwci neu i’ch hysbysu pob tro y bydd cwci yn cael ei anfon i’ch cyfrifiadur a fydd yn rhoi’r dewis i chi ei dderbyn ai peidio. Nid yw CBSMT yn gorfodi’r defnyddiwr i alluogi cwcis ar ei gyfrifiadur. Nid yw gwybodaeth ynghylch cwcis yn cael ei storio ar eich porwr. Dyma rhai o’r cwcis y gallai CBSMT fod yn eu defnyddio:
Name | Purpose |
---|---|
ASP.NET_SessionId | Microsoft ASP.NET : Gall y cwci hwn gael ei ddefnyddio er mwyn gwella diogelwch ein ffurflenni ar-lein. Mae’n cael ei ddileu pan fyddwch yn cau’ch porwr. |
_ga | Mae’r cwci hwn yn cael ei osod gan Google Analytics. Mae’n cael ei ddefnyddio er mwyn cyfrifo data ymwelwyr, sesiwn ac ymgyrch ac olrhain defnydd o’r safle ar gyfer adroddiad dadansoddol. Mae’r cwcis yn stori gwybodaeth yn anhysbys ac yn defnyddio rhif sydd yn cael ei gynhyrchu, ar hap er mwyn dynodi ymwelwyr unigryw. |
_gid | Mae’r cwci hwn yn cael ei osod gan Google Analytics. Mae’r cwci’n cael ei ddefnyddio er mwyn storio gwybodaeth ynghylch sut y mae ymwelwyr yn defnyddio’r wefan gan gynorthwyo i greu adroddiad dadansoddol ar sut y mae’r wefan yn mynd. Mae’r data ynghylch niferoedd yr ymwelwyr, eu ffynhonnell a’r tudalennau yr ymwelir â hwy yn cael eu storio ar ffurflen anhysbys. |
_gat_UA-1935566-1 | Mae hwn yn gwci ar ffurf patrwm sydd wedi ei osod gan Google Analytics. Mae’r elfen batrwm ar yr enw yn cynnwys rhif adnabod unigryw'r cyfrif neu’r wefan. Mae’n amrywiad o’r cwci _gat sydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cyfyngu ar faint o ddata sydd yn cael ei recordio gan Google ar wefannau traffig uchel. |
_gat | Mae’r cwcis hyn yn cael eu gosod gan Google Universal Analytics er mwyn sbarduno’r gyfradd ymgeisio a chyfyngu casglu data ar safleoedd traffig uchel. |
_fbp | Mae’r cwci hwn yn cael ei osod gan Facebook er mwyn darparu hysbyseb neu ar blatfform digidol sydd yn gysylltiedig â Facebook er mwyn hysbysebu wedi ymweliad â’r wefan. |
fr | Mae’r cwci wedi ei osod gan Facebook er mwyn dangos hysbysebion perthnasol i’r defnyddwyr a mesur a gwella’r hysbysebion. Mae’r cwci hefyd yn olrhain ymddygiad y defnyddiwr ar draws y we ar safleoedd sydd â pixel Facebook neu plugin cymdeithasol Facebook. |
mc | Mae’r cwci’n gysylltiedig â Quantserve ac yn olrhain, yn anhysbys sut y mae defnyddiwr yn rhyngweithio â’r safle. |
cref | Dim disgrifiad |
__RequestVerificationToken | Mae hwn yn gwci sydd yn diogelu rhag twyll sydd wedi ei osod gan apps sydd yn defnyddio technolegau ASP.NET MVC. Mae wedi ei gynllunio er mwyn stopio postiadau nad sydd wedi cael eu hawdurdodi rhag postio cynnwys ar y we a’r hyn sydd yn cael ei adnabod fel Twyll Cais Rhwng Safleoedd. Nid yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth am y defnyddiwr ac mae’n cael ei ddinistrio wedi i’r porwr gael ei gau. |
VISITOR_INFO1_LIVE | Mae’r cwci hwn wedi ei osod gan YouTube er mwyn cofnodi dewisiadau’r defnyddiwr ar gyfer fideos YouTube sydd ar y safle. Gall hefyd bennu os yw ymwelydd â’r wefan yn defnyddio fersiwn hen neu newydd o YouTube. |
YSC | Cofnodi ID unigryw er mwyn cadw ystadegau o ba fideos y mae’r defnyddiwr YouTube wedi’u gweld. |
lang | Defnyddir i gofio dewis iaith y defnyddiwr er mwyn sicrhau fod Merthyr.gov.uk yn defnyddio’r iaith sydd wedi’i dynodi gan y defnyddiwr. |
Mae’r mwyafrif o borwyr yn caniatáu peth rheolaeth o’r mwyafrif o gwcis trwy osodiadau’r porwr. Er mwyn gwybod rhagor am gwcis, gan gynnwys gweld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org.
Er mwyn dewis peidio cael eich olrhain gan Google Analytics, ar draws pob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout .
Rhoi gwybod am newidiadau
Wrth i CBSMT greu gwasanaethau newydd, gallai hyn olygu bod angen diwygio’r Polisi Cwcis. Os bydd ein Polisi Cwcis yn newid, unrhyw bryd yn y dyfodol, byddwn yn nodi hynny ar y dudalen hon.
Eich Hawliau
Mae gennych hawl i ofyn i CBSMT i beidio prosesu’ch data personol ar gyfer bwriadau marchnata. Byddwn fel arfer yn eich hysbysu (cyn i ni gasglu’r data) os yw CBSMT yn bwriadu defnyddio’ch data ar gyfer bwriadau o’r fath neu os yw CBSMT yn bwriadu datgelu’ch gwybodaeth i drydydd parti ar gyfer dibenion o’r fath. Gallwch ymarfer eich hawl i wrthod prosesu data o’r fath drwy nodi hynny ar ffurflenni y mae CBSMT yn eu defnyddio er mwyn casglu data. Gallwch hefyd yr ymarfer yr hawl, ar unrhyw adeg drwy gysylltu â E-bost: information.security@merthyr.gov.uk Ffôn: 01685 725000. Gallwch weld Nodiadau Preifatrwydd y Cyngor drwy ddilyn y ddolen ganlynol: https://www.merthyr.gov.uk/council/data-protection-and-freedom-of-information/privacy-notices/
Gall safle CBSMT, o bryd i’w gilydd, gynnwys dolenni i ac oddi wrth wefannau eraill. Os dilynwch y ddolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifat eu hunain ac nad yw CBSMT yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd ar gyfer y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno data personol i’r gwefannau.
O dan Reoliadau Diogelu Data, mae gennych hawl i gyrchu gwybodaeth amdanoch sydd wedi ei chadw. Gellir gwneud unrhyw gais i data.protection@merthyr.gov.uk neu ddilyn y ddolen ganlynol; https://www.merthyr.gov.uk/council/data-protection-and-freedom-of-information/data-protection-requests/