Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diweddariad y Cyngor ar Gwasanaethau Hamdden Merthyr Tudful 11/04/24

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Ebr 2024
default.jpg

Mae nifer o geisiadau ffurfiol wedi'u gwneud gan y cyngor i Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful (yr Ymddiriedolaeth) mewn perthynas a Chanolfan Gymunedol Aberfan a Merthyr Vale. Y cais hwn yw caniatáu i'r cyngor ddarparu darpariaeth hamdden o'r ganolfan o Fai 1af 2024.

Hyd yn hyn, ni chafwyd ymateb gan yr Ymddiriedolaeth.

Fel rhan o unrhyw drosglwyddiad cyfreithiol posibl, mae angen ymarfer diwydrwydd dyladwy. Mae hyn er mwyn canfod sefyllfa y cwmni a fydd yn caniatáu inni ddeall y rhwymedigaethau cyfreithiol ac ariannol, er enghraifft deall y contractau a'r dyledion presennol.

Hyd nes y bydd cais yn cael ei wneud gan yr Ymddiriedolwyr i'r Cyngor mewn perthynas â throsglwyddo Ymddiriedolaeth – a bod yr wybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu gyda ni gan yr Ymddiriedolaeth - ni all yr ymarfer diwydrwydd dyladwy hwn ddechrau.

Yn y cyfamser, mae'r Cyngor yn parhau â'i drafodaethau gyda darparwr hamdden amgen, profiadol i weithredu gwasanaethau yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful o Mai 1af 2024. Mae'r sgyrsiau hyn yn cynnwys ailagor y pyllau yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful. Ar hyn o bryd ni allwn enwi'r darparwr oherwydd nad ydym wedi dyfarnu'r contract eto.

Bydd swyddogion y cyngor yn parhau i geisio cysylltu gayda’r Ymddiriedolaeth mewn perthynas â Chanolfan Gymunedol Aberfan a Merthyr Vale. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni, bwysleisio bod y cyfrifoldeb yn sefyll yn gadarn gyda'r Ymddiriedolaeth o ran darpariaeth gwasanaeth yn y ganolfan.

Byddwn yn darparu diweddariad pellach wrth i bethau fynd yn eu blaen.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni