Ar-lein, Mae'n arbed amser

Noson Lawen yn llwyfan i’r Iaith Gymraeg a thalentau diwylliannol y Fwrdeistref!

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Maw 2024
Noson Lawen

Rydym yn gyffrous i rannu’r newyddion ynghylch y drydedd Noson Lawen a oedd yn ddigwyddiad gwych arall a gynhaliwyd mewn partneriaeth ag ysgolion, ledlled Merthyr Tudful, Nos Iau 21 Mawrth 2024. 

Mae dathliad gwych yr Iaith a’r diwylliant Cymraeg yn mynd o nerth i nerth. Y Noson Lawen oedd penllanw Eisteddfodau Clwstwr yr Ysgolion a chafodd y gynulleidfa wledd o lefaru, dawnsio disgo, unawdau a chorau yn yr Iaith Gymraeg. 

Roedd sgiliau ieithyddol y plant yn amlwg wrth iddynt lefaru a chanu’n hyderus sydd yn tanlinellu pwysigrwydd dysgu’r iaith a bod yn ddwyieithog. Roedd ymdeimlad gref o gymuned yn Neuadd Eglwys The Church of Jesus Christ of Latter-day Saints.

Cafwyd dathliad ar y cyd gan blant Clystyrau Pen y Dre a Chyfarthfa, yn ogystal ag Ysgolion Blessed Carlo Acutis, Ysgolion Cynradd Cymraeg Santes Tudfil a Rhyd y Grug, Ysgolion Uwchradd Cyfarthfa, Pen y Dre ac Afon Taf.  

Cafodd y gynulleidfa wledd o ganeuon a barddoniaeth draddodiadol, Gymraeg a’r gân, ‘Merthyr Forever’ / ‘Merthyr am byth’ gan Mrs Lynne Jones yn benllanw i’r cyfan. Canodd Ysgol Gynradd Caedraw â balchder yn hanes a threftadaeth y Fwrdeistref. Canodd y gynulleidfa ‘Hei Mister Urdd’, ‘Calon Lân’ a’r Anthem Genedlaethol. Roedd grym ein cymuned a’n hangerdd yn amlwg i bawb.

Hoffem ddiolch i Mark, Ralph ac i’r tîm yn yr Eglwys yn ogystal â Mrs Sara Russell, o’r Gwasanaeth Cerdd am gyfeilio. Gwnaeth Hyrwyddwyr y Coleg Cymraeg swydd wych o drefnu’r gynulleidfa! 

Cymeradwyaeth fawr i bawb â gyfranogodd!

Byddwn yn parhau i ddathlu yn yr ardal, er budd yr iaith.

Dymunwn pob llwyddiant i’r rheini sydd yn cystadlu ar ran eu hysgolion a Merthyr Tudful yn Eisteddfod yr Urdd

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Addysg; “Rydym yn hynod falch i weld disgyblion talentog Merthyr Tudful yn cael eu cydnabod yn y dathliadau Noson Lawen eleni.”

“Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych iddynt ddatblygu eu talentau artistig, arddangos eu sgiliau ieithyddol a sicrhau atgofion mewn noson mor hwyliog.

“Llongyfarchiadau i bob un ysgol – dylech fod yn hynod falch.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni