Ar-lein, Mae'n arbed amser

Diweddariad Pontsarn: 25 Mawrth 2024

  • Categorïau : Press Release
  • 25 Maw 2024
default.jpg

Yn anffodus, mae tywydd garw a llifogydd diweddar wedi lledu’r tirlithriad ym Mhontsarn ac mae hyn wedi peri i’r tirlithriad a ddigwyddodd yn ystod cyfnod y Nadolig i ledu ac ymestyn.

Trefnwyd ymweliad safle gan gynnwys archwiliad argyfwng, annibynnol ac mae’r Cyngor yn aros am yr adroddiad er mwyn deall graddfa’r sefyllfa wrth i’r erydiad parhaus fygwth sefydlogrwydd a diogelwch y ffordd.

Er gwaetha’r heriau, mae contractwyr wedi bod yn gweithio’n ddiflino i gryfhau’r tirwedd uchaf a chryfhau’r ffordd ac mi fyddai’r gwaith wedi cael ei gwblhau onibai am law trwm y misoedd diwethaf. 

Fodd bynnag, mae pryderon newydd ynghylch cyflwr y ffordd, islaw. 

Mae’r Cyngor yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru, contracwyr ac aseswyr annibynnol ar hyn o bryd a fydd yn pennu camau nesaf y cynllun gweithredu.

Rydym am sicrhau preswylwyr fod diogelwch yn hollbwysig. Ni fydd y ffordd yn ailagor, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol ar 26 Ebrill hyd nes y byddwn wedi derbyn yr adroddiad ac asesu diogelwch. Byddwn yn darparu diweddariadau a rhagor o wybodaeth yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni