Ar-lein, Mae'n arbed amser

Pwyllgor yn adolygu trwydded cerddoriaeth fyw The Scala

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Ebr 2024
default.jpg

Yn dilyn cwynion ynghylch sŵn, cafodd trwydded gerddoriaeth fyw The Scala ei hadolygu mewn cyfarfod trwyddedu diweddar.

Cododd preswylydd lleol a pherchennog busnes bryderon ynghylch lefelau’r sŵn yn y lleoliad. Derbyniwyd datganiad effaith gan y preswylydd ar sut na all ei fab aros gydag ef bellach yn sgil lefel y sŵn yn yr eiddo ac adroddodd y perchennog busnes am y modd y mae dirgryniad y gerddoriaeth yn achosi i beli snwcer symud ar fyrddau snwcer yn ei leoliad.

O ganlyniad, bu Adran Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor yn monitro’r sŵn a chafwyd tystiolaeth o niwsans sŵn statudol. 

Yn dilyn adolygiad annibynnol gan The Scala, ysgrifennodd y perchennog at  Swyddog Iechyd Cyhoeddus y Cyngor yn nodi …mae’n amlwg, er mwyn cydymffurfio â safonnau inswleiddio sŵn fod angen gwneud gwelliannau strwythurol sylweddol i’r lleoliad.” Aeth ymlaen i ddweud, “mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu fod gweithredu fel lleoliad cerddoriaeth fyw o dan yr amodau cyfredol yn anghynaliadwy.”

Trafodwyd y mater gan yr Is-grŵp Trwyddedu, Ddydd Iau 11 Ebrill. Wedi ystyried yr holl wybodaeth a ddarparwyd gan bob parti, cytunodd aelodau’r pwyllgor i’r broses adolygu gael ei gweithredu’n briodol a bod ymateb mesuradwy wedi ei ddilyn gan Adran Iechyd yr Amgylchedd. Cafwyd cydnabyddiaeth hefyd fod niwsans cyhoeddus wedi digwydd ar y lleoliad a oedd yn tanseilio amcanion y drwydded i rwystro aflonyddu cyhoeddus. Rhoddodd aelodau’r pwyllgor ystyriaeth yn ogystal i’r camau a gyflwynwyd gan ddeiliad trwydded y lleoliad i fynd i’r afael â niwsans sŵn a’i gynlluniau ailddatblygu yn yr hirdymor.

Roedd y pwyllgor felly’n teimlo ei fod yn addas i osod amodau ychwanegol i’r drwydded er mwyn rheoli sut y gall cerddoriaeth fyw barhau ar y lleoliad. Maent yn cynnwys dirwyn cerddoriaeth fyw i ben am 8pm ac i’r busnes wneud Asesiad Effaith Sŵn annibynnol gan weithredu’r mesurau arfaethedig oddi fewn cyfnod penodol o amser.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni