Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynhyrchion mislif di-blastig y gellir eu hailddefnyddio am ddim* ar gael i'w casglu'n lleol!

Carwch eich Mislif, Carwch eich planed!

Yn dilyn llwyddiant CBSMT, Carwch eich Mislif, Carwch eich planed! Ym mis Mawrth 2023 a oedd yn annog trigolion i newid o gynhyrchion misglwyf tafladwy i rai y gellir eu hailddefnyddio, derbyniodd y Cyngor arian ychwanegol gan Grant Urddas Mislif (GUM) Llywodraeth Cymru i gyflenwi disgyblion ysgol a thrigolion Merthyr Tudful â chynhyrchion misglif y gellir eu hailddefnyddio yn rhad ac am ddim tra bod stociau’n para.

Edrychwch ar y rhestr leoliadau ar waelod y dudalen ble gallwch gasglu cynhyrchion am ddim heddiw.

Beth yw tlodi mislif?

Nod y grant GUM yw rhoi terfyn ar dlodi misglif; mae tlodi mislif yn cyfeirio at ddiffyg mynediad at gynhyrchion mislif ac ymwybyddiaeth annigonol o fislif, yn nodweddiadol oherwydd anawsterau ariannol. Canfu arolwg gan Action Aid UK yn 2022 fod bron i un o bob wyth o’r rhai a holwyd wedi’i chael yn anodd prynu cynhyrchion mislif yn ystod y chwe mis diwethaf a bod hyn wedi effeithio ar eu presenoldeb yn yr ysgol neu’r gwaith.

Pam ddyliwn i newid i gynhyrchion mislif amlddefnydd?

Mae’r rhan fwyaf o gynnyrch mislif wedi eu gwneud o blastig untro. Yn syfrdanol, mae pob pad ar gyfer mislif yn defnyddio’r un faint o blastig i’w greu â phum bag plastig ac mae hyd yn oed y rhan o’r tampon sy’n amsugno’r hylif yn cynnwys plastig, nid y dodwr yn unig. Bob blwyddyn mae 200,000 tunnell o wastraff cynnyrch mislif yn cael eu hanfon at safleoedd tirlenwi  yn y DU ac mae pob cartref yn cynhyrchu tua 4kg o wastraff cynnyrch mislif y flwyddyn. Mae hynny’n 114 tunnell o’r math hwn o wastraff ym Merthyr Tudful yn unig!

Beth yw’r manteision?

Gall gynnyrch mislif amldro ddatrys tlodi mislif a gall arbed y defnyddiwr £8-£10 y mis sef y swm sy’n dueddol o gael ei wario yn ystod pob mislif. Gall gynnyrch amldro hefyd warchod yr amgylchfyd oherwydd maent wedi eu gwneud o ddeunydd mwy cynaliadwy ac wrth newid i gynnyrch amldro, byddwch yn lleihau’r galw am blastig untro. Nid yn unig hynny, ond mae cynnyrch mislif amldro yn well i chi am nad ydynt yn cynnwys cemegau diwydiannol peryglus megis BPA, deuocsin, plaladdwyr, cannydd a phersawrau, sydd efallai wedi eu cynnwys mewn cynnyrch untro yn ôl yr ymgyrch dros gosmetigau diogel.

Mae cynhyrchion mislif y gellir eu hailddefnyddio yn well i chi, yn arbed arian ac yn well i'r amgylchedd felly beth am roi cynnig ar newid heddiw!

Mwy o wybodaeth ac adnoddau

Edrychwch ar daflen wybodaeth effaith y mislif ar yr amgylchedd

Manau casglu

Y newyddion gwych yw bod cynhyrchion mislif di-blastig y gellir eu hailddefnyddio ar gael i’w casglu’n lleol yn rhad ac am ddim* o’r lleoliadau canlynol:

 

Llyfrgell Dowlais, Stryd yr Eglwys, Dowlais, Merthyr Tudful CF48 3HS

Canolfan Gymunedol Dowlais, Heol yr Orsaf, Dowlais, Merthyr Tudful CF48 3LW

Hyb Cymunedol Calon Las, Heol Castan, Gurnos, Merthyr Tudful CF47 9SB

Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful, Stryd Fawr, Merthyr Tudful CF47 8AF

Canolfan Hamdden Merthyr Tudful, Pentref Hamdden Merthyr Tudful, Merthyr Tudful CF48 1UT

Canolfan  Integredig i Blant Cwm Golau, Heol Duffryn, Pentrebach, CF48 4BJ

Canolfan Gymunedol Aberfan, Aberfan CF48 4QE

Llyfrgell Aberfan, Canolfan Gymunedol Aberfan, Aberfan CF48 4QE

Canolfan Gymunedol Treharris, Stryd Perrott, Treharris CF46 5ER

Llyfrgell Treharris, Stryd Perrott, Treharris CF46 5ET

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at wasteservices@merthyr.gov.uk a byddwn yn hapus i'ch cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau neu ffoniwch ni ar 01685 725000

*Tra bod stociau'n para

Cysylltwch â Ni