Ar-lein, Mae'n arbed amser

Compostio

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i archebu bin compost.

Gallwch brynu bin Compost 220 litr am bris â chymhorthdal o £ 14.95.

I brynu bin compost, gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Unwaith y bydd y ffi wedi'i dalu, fe'i cyflwynir yn uniongyrchol i chi.

Cynhyrchwch draean yn llai o wastraff

Bydd croen llysiau, papur a llu o bethau eraill o’ch cegin a’ch gardd yn dadelfennu’n hawdd ac yn naturiol mewn bin compost, gan adael llai o wastraff i chi’i roi mewn bag a’i adael i gael ei gasglu a’i brosesu ymhellach.

Gellir compostio tua thraean o’ch gwastraff gartref, gan arbed ynni ac adnoddau er budd i’ch gardd a’ch poced.

Yn eich bin compost gellir torri’r gwastraff bioddiraddadwy hwn yn gompost cyfleus, am ddim yn hawdd iawn gan bryfed a micro-organebau defnyddiol – ond os yw’r gwastraff hwn yn cyrraedd safle tirlenwi, wedi’i gladdu o dan sbwriel arall, ni fydd llawer o aer ar gael i gefnogi’r micro-organebau a allai fod wedi ffynnu yn eich bin compost.

Sut ydw i’n dechrau?

Rhowch fin compost unrhyw le sy’n gyfleus, efallai rhywle sy’n hawdd ei gyrraedd o’r gegin a dechreuwch ei lenwi.

Cymhorthion – Lleoliad

Lleoliad gorau tomen compost yw ar bridd (bydd mwydod a phryfed yn dod o hyd iddi’n hawdd) ond mae’n gweithio ar goncrit, cyhyd â bod rhywfaint o ddraenio.

Cadwch gynhwysydd wrth law yn y gegin ar gyfer eich gwastraff cegin er mwyn lleihau’r nifer o weithiau y mae’n rhaid i chi fynd i’r bin.

Beth ddylwn ei roi yn fy min?

Mae angen rhoi cymysgedd o bethau yn eich bin sy’n pydru ar wahanol gyflymder – nid oes angen didoli.

Pydru’n Gyflym, Pydru’n Araf, Beth na ddylwn ei gompostio?

  • Gwastraff ffrwythau, Toriadau prennaidd                 
  • Parion llysiau, coesyn planhigion, Cynyrch llaeth
  • Blodau, Brigau, Bwyd wedi ei brosesu
  • Chwyn, Dail yr Hydref, lludw
  • Toriadau gwrychoedd, Cardfwrdd wedi ei crychlyd                 
  • Toriadau gwair (dim gormod ar y tro), Bocsys wyau, Gwreiddiau, planhigion blynyddol (dant y llew, ysgawen, taglys, Crafanc y Gŵr Drwg , dail tafol)
  • Bagiau Te, Coffi, Plisgyn Ŵy                             
  • Crafion Pren
  • Gwrtaith (Anifeiliaid llysysol) e. e bochdew / mochyn cwta
  • Tiwbiau canol papur tŷ bach / cegin

Cymhorthion – y cymysgedd

Mae pydryddion cyflym yn pydru’n gyflym a gallant ddod yn gywasgedig/wlyb, felly dylai eu cymysgu â phydryddion araf atal y compost rhag dod yn ludiog ac yn ddrewllyd. Mae tuedd i bydryddion araf fod yn fwy sych felly maent yn compostio’n arafach. Maent yn rhoi gwead i’r compost ac yn creu pocedi aer trwy’r domen. Dylai’ch bin compost cartref fod yn ddelfrydol gael cyfrannedd 50:50 o bydryddion cyflym ac araf.