Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gostyngiadau i Dreth Gyngor

Mae’r hysbysiad o Orchymyn Treth Gyngor llawn yn cymryd bod dau oedolyn yn byw yn eich cartref. Os un oedolyn yn unig sy’n byw mewn eiddo (fel ei brif gartref), bydd yr hysbysiad o Orchymyn Treth Gyngor 25% yn llai. 

Nid yw pobl yn y grwpiau canlynol yn cyfri tuag at nifer yr oedolion sy’n byw mewn eiddo at ddibenion Treth Gyngor:

  • Myfyrwyr amser llawn, nyrsys dan hyfforddiant
  • Prentisiaid
  • Hyfforddeion Hyfforddi Ieuenctid
  • Cleifion sy’n byw mewn ysbyty (am fwy na 52 wythnos)
  • Pobl y gofelir amdanynt mewn cartrefi gofal (nid gofal seibiant)
  • Pobl a chanddynt nam difrifol ar yr ymennydd
  • Pobl sy’n aros mewn hostelau penodol neu llochesi nos
  • Pobl 18 a 19 oed yn yr ysgol neu newydd ymadael
  • Gweithwyr gofal sy’n gweithio am gyflog isel, i elusennau gan amlaf
  • Pobl sy’n gofalu am rywun anabl nad ydynt yn briod ag ef/hi, yn bartner iddo/iddi, neu’n blentyn dan 18 oed
  • Aelodau o luoedd ymweld a sefydliadau rhyngwladol penodol
  • Aelodau o gymunedau crefyddol
  • Pobl yn y carchar (ac eithrio’r rheini yn y carchar am beidio â thalu Treth Gyngor neu ddirwy).

Os ydych yn credu y gallwch hawlio gostyngiad, cysylltwch â ni 01685 725000 Neu e-bostiwch ni ar revenues@merthyr.gov.uk

Beth pe bai fy amgylchiadau’n newid?

Os ydych wedi cael gostyngiad a bod unrhyw amgylchiadau sy’n effeithio ar eich hawl yn newid, rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith gan ddefnyddio’r manylion isod.

Os nad ydych yn gwneud efallai bydd yn rhaid i chi dalu cosb.

Gwneud Cais 

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?