Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gorchmynion triniaeth a phrofi cyffuriau

Mae'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r bobl ifanc hynny a gyflawnodd drosedd cyn 30 Tachwedd 2009 yn unig.  Mae bellach yn rhan o'r Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid sydd wedi cymryd ei le.

Pryd mae'n briodol?

Dylai ond defnyddio Gofyn Triniaeth Cyffuriau a Gofyn Prawf Cyffuriau mewn cysylltiad â Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid pan fydd defnydd y person ifanc o gyffuriau wedi ei nodi fel ffactor sylweddol yn ei ymddygiad troseddol a phan fydd y gofyn hwn yn angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn.  Dylai Timau Troseddau Ieuenctid ystyried yr holl opsiynau eraill sydd ar gael i ddelio â'r materion hyn y tu allan i ofyn ffurfiol.

Pwy sy'n rheoli'r gofyn hwn?

Y Timau Troseddau Ieuenctid sy'n gyfrifol am fonitro a gorfodi'r gofyn hwn.  Bydd disgwyl i ddarparwyr gwasanaeth allanol (wedi eu rheoli gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol) roi gwybod i'r Timau Troseddau Ieuenctid am ddatblygiadau fel y gall y Timau Troseddau Ieuenctid fonitro'r gofyn yn effeithiol.

Os fydd y troseddwr ifanc yn methu a dilyn y cynllun triniaeth, efallai y bydd angen iddo ddychwelyd i'r llys i gael ei ail-ddedfrydu.

 

Cysylltwch â Ni