Ar-lein, Mae'n arbed amser

Argyfyngau llifogydd

Byddwch yn Barod 

Mewn llifogydd fe allwch gael eich hun heb olau, gwres na llinell ffôn.  Bydd y gweithredoedd syml isod yn eich helpu i fod yn barod.  Nawr yw’r amser i feddwl am hyn – peidiwch ag aros nes iddo ddigwydd.  Y mwyaf parod yr ydych, y gorau y byddwch yn gallu ymdopi os fydd yn digwydd i chi neu eich teulu.

  • Ewch i Asiantaeth yr Amgylchedd – Llifogydd i weld os ydych yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd
  • Gwnewch yn siwr bod gennych chi yswiriant addas.  Mae difrod llifogydd yn gynwysiedig yn y rhan fwyaf o bolisïau yswiriant adeiladau, ond gwiriwch eich yswiriant cartref a chynnwys.
  • Yn ogystal â’ch Pecyn Argyfwng Cartref, cofiwch gynnwys menig rwber, esgidiau glaw, dillad sy’n dal dŵr
  • Cadwch fanylion eich polisïau yswiriant a’r rhif cyswllt brys mewn lle diogel - fel rhan o’ch Pecyn Argyfwng Cartref os yn bosib
  • Dewch i arfer cadw eitemau drud neu werthfawr yn y llofft neu mewn lle uchel
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod ble i ddifodd eich nwy a thrydan
  • Os ydych yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd, meddyliwch am brynu bagiau tywod neu fwrdd llifogydd i rwystro drysau a brics aer.  Ceir gwybodaeth ar sut i osod bagiau tywod yn effeithiol yng nghanllaw newydd Asiantaeth yr Amgylchedd ar atal llifogydd.  Ewch i Environment Agency - Floods neu ffoniwch Floodline 0845 988 1188

Beth i'w wneud pan glywch rybudd 

Gwrandewch am rybuddion ar y radio a'r teledu, a ffoniwch Floodline ar 0845 988 1188 neu ewch i Environment Agency - Floods am ragor o wybodaeth.

  • Symudwch anifeiliaid anwes, cerbydau, eitemau gwerthfawr ac eitemau eraill i rywle diogel
  • Rhybuddiwch eich cymdogion, yn arbennig pobl hŷn
  • Gosodwch fagiau tywod neu fyrddau llifogydd - ond sicrhewch fod eich cartref wedi ei awyru'n iawn
  • Byddwch yn barod i ddiffodd nwy a thrydan (gofynnwch am help gan rywun os oes angen)
  • Gwnewch hynny a fedrwch yng ngolau dydd.  Bydd gwneud pethau yn y tywyllwch yn llawer mwy anodd, yn arbennig ar ôl colli trydan

Byddwch yn ddiogel mewn llifogydd - Gwyliwch rhag peryglon llifogydd

Mae llifogydd yn gallu lladd.  Peidiwch â cheisio cerdded na gyrru trwy lifogydd - gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich taro oddi ar eich traed a bydd eich car yn nofio mewn dwy droedfedd o ddŵr.  Fe all cloriau tyllau caead godi ac efallai bod peryglon eraill yn bodoli na allwch eu gweld.

Peidiwch bydd â cheisio nofio trwy ddŵr sy'n llifo'n gyflym - gallwch gael eich ysgubo i ffwrdd neu gael eich taro gan wrthrych yn y dŵr.

Dylech osgoi cyswllt gyda dŵr llifogydd - fe all fod wedi ei lygru gan garthffosiaeth.

Glanhau

Os ydych wedi dioddef llifogydd:

  • Galwch Linell Gymorth Argyfwng (24 awr) eich cwmni yswiriant cyn gynted â phosib.  Byddant yn gallu rhoi gwybodaeth ar sut i ddelio gyda'ch hawliad, a'ch helpu i ddod â phethau yn ôl i drefn
  • Agorwch ddrysau a ffenestri i awyru eich cartref ond gofalwch fod eich cartref a'ch eitemau gwerthfawr yn ddiogel.  Mae'n cymryd rhyw fis i un fodfedd o fricsen tŷ sychu
  • Cysylltwch â'ch cwmni nwy, trydan a dŵr.  Gwiriwch eich cyflenwadau pŵer cyn eu troi yn ôl ymlaen.  Golchwch y tapiau a gadewch i'r dŵr redeg ohonynt am ychydig funudau cyn ei ddefnyddio
  • Taflwch unrhyw fwyd, a all fod wedi dod i gysylltiad gyda dŵr llifogydd – fe all fod yn llygredig
  • Byddwch yn ofalus o fasnachwyr ffug.  Gwiriwch eu cyfeiriadau a cheisiwch gael geirda bob tro. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cynhyrchu tri chanllaw llifogydd i'r cyhoedd.  Mae'r canllawiau'n rhoi cyngor ymarferol ar baratoi ar gyfer llifogydd a beth i'w wneud yn ystod ac yn dilyn llifogydd. Gellir archebu'r canllawiau trwy ffonio Floodline 0800 9881188 neu trwy fynd ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?