Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cronfa Strydoedd Diogelach 2020 - 2021

Hwb o hanner miliwn i’r dref ymladd yn erbyn trosedd

Ym mis Ionawr eleni, cafodd Cronfa Strydoedd Diogelach gwerth £25 miliwn ei lansio i alluogi ceisiadau oddi wrth Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd ledled Cymru a Lloegr i ariannu mentrau wedi eu hanelu at fynd i’r afael â throsedd ac atal trosedd meddiannu a throseddau eraill a gafodd wir effaith ar gymunedau.

Roedd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael yn llwyddiannus yn sicrhau dros £513,410 o’r gronfa a chaiff yr arian ei ddefnyddio i lansio menter atal trosedd gyffrous ym Merthyr Tudful o’r enw Prosiect Penderyn.

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Merthyr Tudful wedi dynodi mesurau a fydd yn sicrhau fod Prosiect Penderyn yn gadael cymynrodd ymladd trosedd a fydd o fudd i holl breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr Merthyr Tudful am amser hir i ddod...

Mae’r nod yn syml: Lleihau trosedd, datgelu trosedd, a gwella ymdeimlad o ddiogelwch yn y dref.

Gwneud ein marc gyda DNA i Guro’r Lladron

Mae ymgyrch fwyaf uchelgeisiol nodi eiddo i’w hymgymryd erioed gan Heddlu De Cymru yn cael ei lansio ym Merthyr Tudful.

Mae technoleg o’r radd flaenaf yn cael ei defnyddio i wneud bywyd yn galetach nac erioed i droseddwyr,  wrth i breswylwyr gael y cyfle i nodi eu pethau gwerthfawr gyda thoddiant DNA unigryw, sy’n gwneud eu heiddo a phethau gwerthfawr yn fwy anodd eu dwyn ac yn llai deniadol i’w cymryd.

Caiff pob cartref yn Ward Tref Merthyr Tudful offer nodi eiddo gyda DNA i nodi hyd at bum deg o wahanol eitemau o’u heiddo. Mae hyn yn golygu pe byddai eiddo yn cael ei ddwyn ac yna ei ddarganfod, y gellir ei ddychwelyd i’w berchennog cywir. Y mae hefyd yn cynyddu’r siawns fod unrhyw un sy’n gynwysedig yn y dwyn neu’n delio gydag eiddo wedi ei ddwyn, yn cael ei osod ger bron llys barn am ei drosedd.    

Am yr union reswm hynny, mae defnyddio nodau DNA ar eiddo yn atal troseddwyr am eu bod yn osgoi troseddu mewn ardaloedd ble mae’r tebygolrwydd ohonynt yn cael eu dal yn fwy. Mewn rhai ardaloedd, mae nodi eiddo wedi lleihau byrgleriaeth gan gymaint ag 80 y cant.

Llewyrch goleuni yng nghanol y dref i leihau trosedd a gwella teimladau o ddiogelwch

Mae canol tref Merthyr Tudful ar fin cael ei oleuo hyd yn oed yn fwy, diolch i raglen gwella goleuadau stryd Cronfa Strydoedd Diogelwch.

Yn ogystal â phrif strydoedd a thramwyfeydd y dref, bydd hyd at saith maes parcio yn elwa o’r golau allbwn-uchel a cholofnau golau ynni-effeithlon gan gynnwys Maes parcio Stryd Gillar, Pontmorlais a Stryd y Castell. 

Y nod yw gwella teimladau o ddiogelwch personol ymhlith y miloedd lawer o ymwelwyr sy’n defnyddio meysydd parcio’r dref bob dydd.

Bydd y mesurau yr ydym yn eu cymryd yn helpu i gael achrediad Park Mark i osod meysydd parcio’r dref yn swyddogol ymhlith y mwyaf diogel yn y DU.

Os oes unrhyw amheuaeth gennych ynghylch yr effaith gaiff goleuo stryd mewn gwirionedd, ystyriwch hyn - profwyd bod gwell goleuo yn lleihau troseddu o hyd at 17 y cant. Does dim rhyfedd ei fod yn gwneud i bobl deimlo’n fwy diogel.

Gwylio dros ganol y dref i’ch cadw’n ddiogel

Mae gwelliannau sylweddol yn cael eu gwneud i offer CCTV yng nghanol y dref. Gosodwyd camerâu o’r radd flaenaf mewn lleoliadau allweddol dros y dref i’w gwneud hyd yn oed yn fwy diogel i’r miloedd o breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr.

Ac nid dyna’r cyfan, oherwydd am y tro cyntaf yng nghanol tref Merthyr, bydd systemau PA a Phwyntiau Helpu Cymunedol yn cysylltu pobl ar y stryd yn uniongyrchol â chanolfan reoli’r awdurdod lleol ble y bydd staff wrth law i gynnig cymorth ac arweiniad – y cyfan sydd angen ei wneud yw pwyso botwm.

Disgwylir i’r gwelliannau wneud gwir wahaniaeth, a byddant yn gweithio law yn llaw â goleuo gwell i atal a datgelu trosedd yng nghanol y dref.

Stopio llwybrau troseddu gyda gatiau ali

Mae lonydd cefn ac alïau tref Merthyr yn rhan o dreftadaeth y dref wrth gwrs ac maen nhw yma i aros, ond yn anffodus maen nhw’n gallu bod yn guddfannau ar gyfer gwahanol fathau o droseddau.

Mae problemau fel cymryd cyffuriau, yfed yn y stryd a tipio anghyfreithlon wedi bod yn bla ar fywydau preswylwyr mewn rhai ardaloedd am yn llawer rhy hir. Nid yn unig ydy’r ardaloedd hyn yn edrych yn ddiolwg, maen nhw’n cyflwyno risg iechyd a diogelwch i’r cyhoedd ac wrth gwrs yn gadael pobl i deimlo’n anniogel ac yn bryderus.

Gyda gatiau ali, ein gobaith yw stopio problemau fel hyn. Mae’r gatiau yn gallu cael eu cloi, ac maen nhw’n cael eu gosod ar ddiwedd pob lôn ac yn darparu mynediad cyfyngedig i’r bobl hynny sydd â rheswm cyfreithlon i’w defnyddio.

Bydd gatiau ali yn cael eu gosod mewn o leiaf chwech o leoliadau sy’n dioddef o drosedd gan gau’r drws ar droseddu.

Cysylltwch â Ni