Ar-lein, Mae'n arbed amser

Taliadau Tai Dewisol (TTD)

Defnyddio'r gwasanaeth hwn i wneud cais amdano Taliadau Tai Dewisol.

Os ydych chi’n derbyn budd-dal tai tai ac yn parhau i’w gweld hi’n anodd talu’ch rhent, efallai y gallwch chi dderbyn cymorth ychwanegol drwy wneud cais ar gyfer Taliadau Tai Dewisol (TTD). Os nad ydych bellach yn hawlio Budd-dal Tai oherwydd eich bod nawr yn hawlio Credyd Cynhwysol, gallwch wneud cais am TTD.

Dim ond hyn a hyn o arian sydd ar gael o dan y cynllun hwn ac allwn ni ond helpu’r rhai mwyaf anghenus. Fel arfer rydym ni’n cytuno ar TTD ar gyfer cyfnod cyfyngedig yn unig ac bydd angen I chi wneud cais.

Elfennau nad yw TTD yn gofalu amdanynt
  • rhannau o rent nad yw budd-dal tai yn gofalu amdanyn nhw, er enghraifft; costau tanwydd, dŵr poeth neu brydau bwyd
  • costau dŵr a charthffosiaeth
  • cynnydd mewn rhent oherwydd rhent dyledus (taliadau rhent hwyr)
  • budd-dal tai sydd wedi ei atal gan nad ydych chi wedi darparu’r wybodaeth sydd arnom ei angen ar gyfer eich cais
  • unrhyw ostyngiad mewn budd-daliadau gan nad ydych chi wedi mynd am gyfweliad swydd neu sancsiynau cyflogaeth (wedi gadael gwaith cyflogedig yn wirfoddol neu oherwydd camymddwyn)
  • Unrhyw ostyngiad mewn budd-dal oherwydd gostyngiad cyfeiriad budd-dal (yr Adran Gwaith a Phensiynau yn adfer gordaliad) neu eich bod wedi methu â threfnu cynhaliaeth gyda’r Asiantaeth Cynnal Plant
Sut ydym ni’n penderfynu pwy sy’n cael TTD?

Rydym ni’n ystyried yr elfennau canlynol wrth inni wneud penderfyniad:

  • ydych chi wedi ceisio gwella’r sefyllfa eich hun
  • cyfanswm eich incwm wythnosol
  • cyfanswm eich taliadau wythnosol
  • oes gennych chi unrhyw gynilion
  • oes unrhyw un arall yn y cartref yn gallu helpu yn ariannol
  • oes gennych chi unrhyw fenthyciadau neu ddyledion ar ôl i’w talu
  • oes modd ichi ail-drefnu’ch arian er mwyn helpu’r sefyllfa
  • oes gennych chi neu eich teulu unrhyw broblemau anghenion iechyd neu anabledd
Faint fyddaf i’n ei dderbyn?

Mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau gan fod pob cais yn cael ei drin yn unigol. Os ydym ni’n penderfynu ein bod yn gallu gwneud taliad, byddwn ni’n ysgrifennu atoch i ddweud faint fyddwch chi’n ei dderbyn ac am ba hyd.

Os ydych chi’n llwyddiannus, byddwch yn derbyn TTD gyda’ch budd-dal tai arferol.

Apeliadau

Os ydych chi’n anghytuno gyda’r penderfyniad ynghylch cais ar gyfer TTD fe allwch chi ofyn inni edrych ar y mater eto.  Bydd rhaid ichi wneud hyn drwy ysgrifennu atom ni o fewn mis i’r dyddiad ar y llythyr penderfyniad gan nodi’n glir pam eich bod yn anghytuno.

Ni allwch chi apelio at Dribiwnlys Annibynnol ynghylch penderfyniad TTD.