Ar-lein, Mae'n arbed amser
Apêl budd-dal tai
Os ydych chi wedi derbyn penderfyniad ynghylch budd-dal tai ac yn credu ei fod yn anghywir, cysylltwch â ni er mwyn:
- gofyn inni ei egluro mewn datganiad rhesymau
- gofyn inni ailystyried y penderfyniad
- gwneud apêl at Dribiwnlys Annibynnol i edrych ar y penderfyniad eto
Bydd rhaid ichi ysgrifennu atom ni o fewn mis i’r dyddiad ar y llythyr penderfyniad. Bydd swyddog gwahanol yn edrych ar y penderfyniad eto er mwyn gweld os yw’n gywir.
Os bydd modd newid y penderfyniad byddwn ni’n gyrru llythyr yn egluro’r penderfyniad newydd. Os na fyddwch chi’n cytuno â’r penderfyniad newydd fe allwch chi ofyn inni ail edrych arno.
Os na fydd modd newid y penderfyniad byddwn ni’n gyrru llythyr i egluro hynny.
Apeliadau hwyr
Os nad ydych chi’n cyrraedd y terfyn amser o fis, gallwch wneud cais am apêl hwyr. Y terfyn amser eithaf ar gyfer apêl hwyr yw 13 mis o ddyddiad y penderfyniad.
Pan fyddwch chi’n gofyn am apêl hwyr, bydd rhaid ichi ofyn inni dderbyn eich apêl hwyr a chynnwys manylion ynghylch unrhyw amgylchiadau arbennig a wnaeth eich rhwystro rhag cyflwyno eich apêl yn gynt.
Mae’n bwysig pwysleisio nad oes sicrwydd y bydd y Tribiwnlys yn derbyn apeliadau sy’n cael eu cyflwyno wedi’r terfyn amser o fis.