Ar-lein, Mae'n arbed amser

Lwfans Tai Lleol (LTL)

Os ydych chi’n denant preifat yn rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat ac ar incwm isel, efallai y gallwch chi wneud cais a derbyn Lwfans Tai Lleol (LTL).

O 27 Mehefin 2018 efallai y bydd angen I chi hawlio Credyd Cynhwysol gan ei fod yn disodli ceisiadau newydd am Fudd-dal Tai.

Gallwch hawlio Lwfans Tai Lleol trwy gwblhau hawliad Budd-dal Tai ar-lein trwy ymweld â.

Faint fyddaf i’n ei dderbyn?

Mae swm y budd-dal tai/cyfradd lwfans tai lleol byddwch chi’n ei dderbyn yn dibynnu ar y nifer o ystafelloedd gwely sydd ei angen yn eich tŷ.

Mae un ystafell wely yn cael ei ystyried ar gyfer:

  • pob oedolyn neu gwpl
  • unrhyw un nad ydynt yn blentyn (16 oed a throsodd)
  • pob dau blentyn o dan 16 os ydynt o’r un rhyw
  • pob dau blentyn o dan 10 (unrhyw ryw) ac unrhyw blentyn arall
  • gofalwr allanol os oes angen cymorth dros nos arnoch chi neu eich partner
  • bydd gofalwyr maeth yn cael un ystafell ychwanegol ar yr amod eu bod wedi maethu plentyn neu wedi dod yn ofalwr maeth cymeradwy yn y 52 wythnos diwethaf
  • bydd rhieni sydd â phlant sy’n oedolion yn y lluoedd arfog (neu wrth gefn) sydd fel arfer yn byw gyda nhw yn gallu cadw’r ystafell wely ar eu cyfer pan maen nhw oddi cartref yn gwasanaethu.

I gael gwybod faint o ystafelloedd gwely sydd yn eich cartref, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell ystafell wely Directgov LTL. Mae cyfradd LTL ar gael ar LTL-Direct, dewch o hyd i hwn drwy chwilio’r cod post. 

Ydych chi o dan 35?

Os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun ac o dan 35 mlwydd oed mae gennych chi hawl i gael y gyfradd ystafell sengl yn unig. Fodd bynnag, mae gan rai unigolion penodol sydd o dan 35 hawl i’r gyfradd un ystafell wely, mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • os ydych chi’n derbyn y gofal cydrannol uchaf neu ganolog o lwfans gweini byw i’r anabl
  • Os ydych chi dros 25 ac wedi treulio o leiaf 3 mis mewn hostel arbenigol ar gyfer pobl ddigartref a phrif bwrpas yr hostel oedd darparu llety, gofal, goruchwyliaeth neu gefnogaeth i gynorthwyo adferiad ac ailgartrefu yn y gymuned.