Ar-lein, Mae'n arbed amser
Tai Amlfeddiannaeth
Caiff Tai Amlfeddiannaeth eu ystyried yn llety risg uchel oherwydd eu math o feddiannaeth a’r risg o dân. Maen nhw’n aml yn cael eu gosod i tenantiaid ar incwm isel a rhai agored i niwed ac fe allan nhw fod o safon isel o safbwynt eu cyflwr, mwynderau a’r ffordd y maen nhw’n cael eu rheoli.
Yn ôl y diffniad o dan adrannau 254 a 257 o Ddeddf Tai 2004, gall Tŷ Amlfeddiannaeth fod yn adeilad neu’n rhan o adeilad:
- Os yw wedi ei feddiannu gan bersonau sy’n ffurfio mwy nag un aelwyd, a lle bo’r personau hynny’n rhannu un neu fwy o fwynderau sylfaenol, megis toiled, cyfleusterau ymolchi a choginio (neu’n amddifad ohonynt); neu
- Os yw’n adeilad wedi ei addasu sy’n cynnwys un neu fwy o unedau o lety nad ydynt i gyd yn fflatiau hunan-gynwysedig. (Nid yw’n ofynnol fod y meddianwyr yn rhannu cyfleusterau); neu
- Os yw’n adeilad wedi ei addasu sy’n cynnwys fflatiau hunan-gynwysedig yn unig, lle nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â’r addasu yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 1991 a lle mae mwy na thraean o’r fflatiau wedi eu meddiannu o dan denantiaethau byr
Rhaid i’r Tŷ Amlfeddiannaeth fod wedi ei feddiannu gan fwy nag un aelwyd:
- fel eu hunig neu brif breswylfan; neu
- fel lloches gan bobl yn dianc rhag trais domestig; neu
- yn ystod amser tymor gan fyfyrwyr; neu
- i ryw ddiben arall a ddisgrifir yn y rheoliadau
O dan Ddeddf Tai 2004, mae aelwyd yn cynnwys:
- person sengl; neu
- gyplau’n cyd-fyw (boed hynny o’r un rhyw neu’r rhyw arall); neu
- teulu (gan gynnwys plant maeth a phlant mewn gofal) a gweithwyr domestig cyfredol.
Mae Adran Amddiffyn yr Amgylchedd a Thai o’r Adran Iechyd Cyhoeddus wedi adnabod nifer o anheddau o fewn y Fwrdeistref sy’n dod o dan ddiffiniad Tŷ Amlfeddiannaeth. Mae’r Adran yn cadw cronfa ddata o’r adeiladau hyn a gaiff eu harolygu ar raglen seiliedig ar risg er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau a bennir o dan y Deddfau Tai a’u bod yn ddiogel i fyw ynddyn nhw.
Mewn amgylchiadau lle nad yw Tŷ Amlfeddiannaeth yn cyrraedd y safonau priodol, bydd y Cyngor Bwrdeistref yn ceisio:
- cyflwyno rhybudd(ion) cyfreithiol yn gosod rheidrwydd am agyweiriadau, gwelliannau neu ragofalon tân
- cyflwyno rhybudd cyfreithiol i leihau’r nifer o feddianwyr
- cyflwyno rhybudd cyfreithiol i wella’r safonau rheoli
Mae'r safonau sy'n rhaid eu cyrraedd wedi eu nodi yn Merthyr Tydfil County Borough Council Approved Standards for HMOs.pdf [38KB].
Mae llyfryn gwybodaeth hefyd ar gael gan yr Adran.