Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cwynion am dai

cyflwr tai

 

Y tîm Gorfodi Diogelwch Amgylcheddol a Thai sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau’r Cyngor yn y meysydd canlynol:
Peryglon mewn eiddo domestig preifat
Diffyg atgyweirio mewn tai sector preifat
Niwsans statudol a sefyllfaoedd sy’n niweidiol i iechyd mewn eiddo preifat
Rheoli tai amlfeddiannaeth
Rheoli safleoedd gwersylla a charafannau
Troi allan anghyfreithlon ac aflonyddu
Eiddo gwag
Pryderon iechyd cyhoeddus megis problemau draenio a chroniadau o sbwriel.

Mae gan y Cyngor nifer o ddyletswyddau cyfreithiol o safbwynt y gwasanaethau hyn, sy’n cael eu cyflawni gan weithgareddau ymchwilio, arolygu a monitro’r tîm.

 

Mae’r lleihad yn y ddarpariaeth o dai cyngor wedi cynyddu diddordeb mewn rhentu tai preifat, rhai ohonynt yn rhannau tlotaf y farchnad. Rydym yn ymrwymo i helpu gwella amodau byw tenantiaid mewn tai sector preifat a Chymdeithasau Tai trwy sicrhau bod y tai’n ddiogel ac mewn cyflwr da.

 

Lle bynnag bo hynny’n bosibl, rydym yn gweithio gyda pherchnogion tai o’r fath i’w cynghori a’u hysbysu o gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bod eu heiddo’n cyrraedd ac yn cadw at safonau llety addas. Fodd bynnag, lle na cheir cydweithrediad, a’r eiddo’n dal i fod mewn cyflwr ‘anniogel’ neu ‘beryglus’, fe fyddwn ni’n cymryd camau ffurfiol yn erbyn y perchennog.

 

Dylai pob annedd ddarparu amgylchedd diogel ac iach i’r meddianwyr presennol a meddianwyr y dyfodol. Mae hyn yn ymwneud â chyflwr cyffredinol yr adeilad, adeiladau allanol cysylltiedig, gerddi, iard a/neu ofod mwynderol arall a mynedfeydd.

 

Pryd mae eiddo'n "ddiogel i bobl fyw ynddo"?

 

Fe wnaeth Deddf Tai 2004 gyflwyno’r System Raddio Iechyd a Diogelwch Tai ar gyfer asesu peryglon iechyd a diogelwch yn y cartref.

 

Mae hyn yn arf newydd ar gyfer asesu risg a ddefnyddir i asesu risgiau posibl i iechyd a diogelwch meddianwyr mewn eiddo preswyl.

 

Pam fod angen y System Raddio Iechyd a Diogelwch Tai?


Mae’r System Raddio’n berthnasol i bob eiddo preswyl, ac mae’n darparu system sy’n gallu asesu difrifoldeb peryglon a adnabuwyd, a’r tebygolrwydd o ganlyniad niweidiol.  Mae’r dull asesu newydd yn canolbwyntio ar y peryglon sydd fwyaf tebygol o fod yn bresennol mewn tai. Bydd mynd i’r afael â’r peryglon hyn yn gwneud tai’n iachach ac yn ddiogelach i fyw ynddynt. Gwneir yr asesiadau gan Swyddog Iechyd Amgylcheddol sydd wedi’i hyfforddi mewn gwneud asesiadau’r System Raddio Iechyd a Diogelwch Tai ac a fydd yn penderfynu a oes angen ymyrryd.

 

Beth yw'r peryglon?

  

Mae’r System Raddio Iechyd a Diogelwch Tai’n asesu annedd o safbwynt 29 o beryglon tai, a’r effeithiau y gallai pob un o’r peryglon ei gael ar feddianwyr yr eiddo. Mae’r peryglon hyn wedi eu rhannu’n 4 brif grŵp:

      

Gofynion ffisiolegol

Mae’r rhain yn cynnwys amodau thermol: tamprwydd a llwydni, oerfel gormodol a gwres gormodol, a llygryddion fel asbestos, carbon monocsid a radon.

 

Gofynion seicolegol  

Mae'r rhain yn cynnwys gofod, tai gorlawn, diogelwch, mynediad gan ladron, goleuo a sŵn.

 

Dioglewch rhag haint

Mae'r rhain yn cynnwys hylendid, glanweithdra a chyflenwad dŵr ee plâu hylendid domestig a sbwriel, hylendid personol, glanweithdra  a thraeniad, diogelwch bwyd, cyflenwad dŵr i ddibenion domestig.

 

Diogelwch rhag damweiniau

Mae'r rhain yn cynnwys cwympiadau ar y lloriau a rhyngddynt ac ar y grisiau, peryglon trydanol, tanau, llosgiadau, sgaldiadau, gwrthdrawiadau, toriadau ac ysigiadau.

 


Gwybodaeth bellach

Os oes arnoch angen gwybodaeth neu gyngor pellach ynghylch cyflwr eich eiddo, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

 

Os ydych chi’n denant preifat ac yn bryderus ynghylch safon yr eiddo’r ydych chi’n byw ynddo, dylech gysylltu â’ch landlord neu asiant gosod i ddechrau. Os na roddir sylw i’ch pryderon, peidiwch â meddwl dwywaith cyn cysylltu â ni.