Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Swyddog Cyswllt Cyflogaeth Ysbrydoli I Gyflawni (i2a)
Cyfeirnod y swydd: RE-1585
Cyflog: £29,269.00 - I: £31,364.00
Graddfa Swydd: Gradd 5 / Grade 5
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Uned 5/Ystwyth/Ysgol a Chymuned/Unit 5/Agile/School and Community based
Arbenigol:
Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2025

Mae Ysbrydoli i Gyflawni (I2A) yn brosiect sy'n gweithio mewn ysgolion prif ffrwd, Uned Cyfeirio Disgyblion a ledled cymuned Merthyr Tudful. Bydd y Swyddog Cyswllt Cyflogaeth Ysbrydoli i Gyflawni (I2A) yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 14 a 19 oed y nodir eu bod fwyaf mewn perygl o beidio â chymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), neu nad ydynt bellach yn cymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Bydd deiliad y swydd yn creu cyfleoedd profiad gwaith a gwirfoddoli i wella sgiliau bywyd a gwella cyflogadwyedd pobl ifanc mewn ysgolion a lleoliadau addysgol ynghyd â'r bobl ifanc hynny ar ôl 16.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Jaime Spooner ar 01685 725000.

Rhaid i bob ymgeisydd newydd gwblhau cwrs Gwaith Cymraeg arlein 10 awr. Rhaid cwblhau rhan 1 a 2 o’r cwrs a dangos tystiolaeth o hyn cyn dechrau gweithio gyda’r Awdurdod. Am wybodaeth bellach am sut i gwblhau’r cwrs hwn ewch i:
https://learnwelsh.cymru/

MEINI PRAWF HANFODOL
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol

Gwnewch gais ar-lein - www.merthyr.gov.uk

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 05.06.2024 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg a ni chaiff unrhyw gais a gaiff ei gwblhau yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol mewn unrhyw ffordd na’r rheini a gyflwynir yn Saesneg.

Os byddwch yn llwyddiannus i gael eich rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod os hoffech i’r cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.