Ar-lein, Mae'n arbed amser

Profiad Gwaith gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Ydych chi am gael profiad ac archwilio opsiynau gyrfaol?
Oes diddordeb gennych mewn dysgu am amrywiaeth eang o wasanaethau y mae’r Cyngor yn eu darparu?
Oes diddordeb gennych mewn gweithio i wasanaethau eich cymuned leol?

Os mai eich ateb i’r cwestiynau hyn yw ‘ydw’ ac ‘oes’ yna gallai lleoliad profiad gwaith gyda’r Cyngor fod yr hyn rydych yn chwilio amdano!

Mae’r Cyngor yn cynnig lleoliadau profiad gwaith i unrhyw un dros 14 oed mewn amrywiaeth o ardaloedd. P’un ai ydych yn fyfyriwr mewn ysgol, coleg neu brifysgol, yn ystyried dychwelyd i’r gwaith, neu’n ystyried newid eich gyrfa, mae profiad gwaith yn gyfle i gael mewnwelediad i mewn i gyfleoedd yn y Cyngor.

Beth yw’r manteision o gael lleoliad gyda Chyngor Merthyr Tudful?
  • Bydd lleoliad yn eich helpu i
  • Gael profiad yn y maes y mae gennych ddiddordeb ynddo, neu gael cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd
  • Gwella eich CV: bydd cael profiad gwaith yn cynyddu eich siawns o lwyddo wrth ymgeisio am swydd
  • Adeiladu eich sgiliau, gwybodaeth a hyder
  • Dysgu am y Cyngor a chael mewnwelediad i’r sector cyhoeddus

Cwrdd â phobl newydd ac adeiladu rhwydweithiau.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?
  • Lleoliad wedi ei deilwra ar gyfer eich anghenion a’ch diddordebau
  • Cyfle i ddysgu sut mae’r Cyngor yn cyflenwi gwasanaethau i bobl leol
  • Profiad gwerthfawr gyda chymysgedd o gysgodi a phrofiad go iawn o weithio
  • Amgylchedd cefnogol, diogel ac ysgogol

I archwilio pa feysydd o’r Cyngor sydd yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith ar hyn o bryd edrychwch ar ein lleoliadau.

Oeddech chi’n chwilio am?