Ar-lein, Mae'n arbed amser

Plant sydd yn Colli Addysg

Mae plant a phobl ifanc nad sydd yn derbyn addysg addas mewn mwy o risg o ddioddef amrywiaeth o ddeilliannau negyddol allai gael effaith niweidiol, hirdymor ar eu cyfleoedd mewn bywyd.

Mae plentyn sydd yn colli addysg mewn oed addysg gorfodol (rhwng 5 ac 16 oed,) nad sydd ar gofrestr ysgol, nad sydd yn derbyn addysg addas yn hytrach na’r ysgol (er enghraifft, yn y cartref, yn breifat neu ddarpariaeth amgen) ac sydd wedi bod allan o ddarpariaeth addysgol am gyfnod sylweddol o amser, fel arfer, am bedair wythnos neu ragor.

Bydd angen i chi gysylltu â ni’n syth os:

ydych wedi sylwi ar blentyn nad sydd yn mynychu ysgol yn rheolaidd 

  • ydych yn credu nad yw plentyn yn derbyn addysg
  • oes gennych bryderon am blant sydd wedi mynd ar goll o’ch ardal neu’ch cymdogaeth.

Nid oes angen i chi roi’ch manylion personol ond os byddwch yn gwneud hynny, bydd pob dim yn cael eu cadw’n gyfrinachol.

Os tybiwch fod plentyn yn colli ysgol, dylech nodi hynny ac e-bostio’r Gwasanaeth Llesiant Addysg:

Education.WelfareTeam@merthyr.gov.uk

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn nodi pryder?

Drwy nodi’ch pryder, rydych yn sicrhau diogelwch a llesiant rhai o’r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed yn eich cymuned. Pan fyddwn yn derbyn eich adroddiad, byddwn yn trio olrhain y plentyn trwy nifer o gronfeydd data gwahanol ac yn cydgysylltu ag asiantaethau ac ymarferwyr proffesiynol eraill. Os ydym yn fodlon fod y plentyn wedi ei gofrestru mewn ysgol neu ei fod yn derbyn addysg addas, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach. Os bydd angen , byddwn hefyd yn cynorthwyo’r plentyn i fynd yn ôl i’r ysgol.

Cysylltwch â Ni