Ar-lein, Mae'n arbed amser

Prydau Ysgol AM DDIm i bob disgybl cynradd

Mae Llywodraeth Cymru yn anelu i ddarparu pryd ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru, waeth beth yw incwm y teulu , erbyn mis Medi 2024.

O Chwefror 19eg 2024, bydd UPFSM (Prydau Ysgol Am Ddim Cynradd Cyffredinol) ar gael i bob disgybl ym Mlynyddoedd 5 a 6 sy'n cwblhau'r cyflwyniad i bob disgybl oed cynradd o'r Meithrin Llawn amser i Flwyddyn 6.

Nid oes angen i chi wneud cais amdano a gall POB disgybl yn y blynyddoedd ysgol canlynol – Meithrin llawn amser, Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2 a Blynyddoedd 3 a 4, 5 a 6 dderbyn cinio ysgol am ddim, pob dydd. Archebwch ginio’ch plentyn yn y ffordd arferol trw’r ysgol. 

Anogir pob rhiant i archebu pryd(au) ysgol eu plant o flaen llaw drwy ParentPay.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ebostiwch : UPFSM@ Merthyr.gov.uk

Gofynion Dietegol Arbennig

Er mwyn gallu darparu cinio i rai gyda gofynion dietegol arbennig, sy’n cynnwys :

  • Opsiwn Lysieuol
  • Diet Crefyddol Moesegol
  • Anghenion meddygol Alergedd

Mae angen i chi gwblhau Ffurflen Dietegol Arbennig ac uwchlwytho dogfenau i gefnogi diet/ alergedd.

Gellir gweld y ffurflen trwy ddilyn y ddolen isod:

Ffurflen Gofynion Dietegol Arbennig | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Os nad oes gan eich plentyn angen dietegol arbennig, peidiwch cwblhau’r ffurflen uchod.

Nodwch, ar gyfer ceisiadau am ddiet arbennig, byddwn ni ond yn derbyn ceisiadau sy’n cynnwys dogfennau meddygol i gefnogi’r cais.

Cysylltwch â Ni