Ar-lein, Mae'n arbed amser

Chwarae ym Merthyr

I lwyddo i fyw mewn Cymdeithas sy’n gyfeillgar i chwarae ac sy’n cynnig ystod o gyfleoedd chwarae a hamdden, mae’n angenrheidiol i’r holl bartneriaid o fewn y gymuned i weithio gyda’i gilydd i gyflawni hyn.

Mae CBSMT yn cydnabod pwysigrwydd chwarae ym mywyd plentyn ac yn gwneud ymrwymiad cadarn i weithio’n ddyfal gyda sefydliadau partner; gyda phlant a’u teuluoedd; a chymunedau i sicrhau bod cyfleoedd chwarae yn hygyrch a’r hyn maent ei eisiau ac yn ei ddisgwyl.

Y partneriaethau yr ydym yn gweithio gyda nhw yw:

  • Cynghorau Cymuned a Thref
  • Sefydliadau'r Trydydd Sector, yn arbennig cymdeithasau chwarae rhanbarthol
  • Grwpiau Cymunedol
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Grwpiau Ieuenctid
  • Plant gydag Anableddau
  • Byrddau Iechyd
  • Cymdeithasau Tai

Am fwy o wybodaeth am gyfleoedd chwarae o fewn Merthyr Tudful, cysylltwch gyda: enquiries.play@merthyr.gov.uk

Cysylltwch â Ni