Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwybodaeth am Gludiant o Gartref i Ysgol

Mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau fod eich plentyn yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd ac mae hyn yn cynnwys trefnu cludiant i’r ysgol ac oddi yno, talu am gostau hyn a hebrwng eich plentyn pan fydd angen gwneud hynny. Mewn rhai achosion, mae gennym ofyniad cyfreithiol i ddarparu cludiant i’r ysgol, am ddim. Byddwn yn cynorthwyo’ch plentyn  â chludiant o’r cartref i’r ysgol os yw’ch plentyn yn mynychu ei ysgol addas, agosaf. 

Mae cludiant, am ddim o’r cartref i’r ysgol yn cael ei ddarparu ar gyfer:

  • disgyblion oed cynradd sydd yn byw 2 filltir neu fwy o’u dalgylch neu’r ysgol addas, agosaf.
  • disgyblion oed uwchradd  sydd yn byw 3 milltir neu fwy o’u dalgylch neu’r ysgol; addas, agosaf, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd.

Diffiniad o’r ‘ysgol addas, agosaf’:

Mae Mesur Taith Dysgwr (Cymru) 2009 yn nodi mai diffiniad “ysgol addas” yw lle y mae’r “addysg neu’r hyfforddiant sydd yn cael eu darparu yn addas o ran oed, gallu a chymhwysedd y dysgwr ac unrhyw anhawster dysgu y gallai fod ganddo.” 

Ni allwn gynorthwyo â chludiant os dymunwch anfon eich plentyn i ysgol arall, yn hytrach na’ch ysgol agosaf. Mae cludiant ond ar gael rhwng eich ysgol a’ch cyfeiriad cartref – ni allwch ddefnyddio’r cludiant hwn i fynd â’ch plentyn i ail gyfeiriad neu i gyfleusterau gofal plant.

Dod o hyd i'ch ysgol agosaf

Amgylchiadau eraill:

  • Os yw’ch plentyn yn byw mewn mwy nag un cyfeiriad (preswyliad deuol)
  • Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol ychwanegol, anabledd neu broblemau symudedd ac nad oes fodd iddo gerdded i’r ysgol
  • Mae ei lwybr i’r ysgol yn llai na’r pellter cerdded statudol ond ei fod wedi cael ei asesu a’i bennu i fod yn anaddas i gerdded.

Cysylltwch â Ni