Ar-lein, Mae'n arbed amser

Polisi Gwrth-fwlio

Dylai pob plentyn a pherson ifanc ym Merthyr Tudful gael y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i gyflawni’u potensial, gan gynnwys yr hawl i ddysgu mewn amgylchedd diogel a gwarchodol yn rhydd rhag hiliaeth, bwlio neu wahaniaethu o unrhyw fath.

Mae effeithiau niweidiol bwlio yn hir dymor ac yn bellgyrhaeddol ac yn effeithio ar ddatblygiad personol a chymdeithasol yn ogystal â chyflawniadau addysgol.  Mae bwlio yn digwydd ymhob ysgol i ryw raddau. Yn anffodus bydd nifer fach o bobl ifanc o hyd sy'n dymuno erlid neu fwlio unigolyn arall am ba bynnag reswm.

Rydym yn gwybod bod bwlio yn digwydd, ond mae ei atal yn her anferthol. Dyna pam mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion. Mae angen i blant a phobl ifanc ddysgu bod bwlio yn anghywir ac y dylent barchu eraill.

Rydym wedi cynhyrchu strategaeth wrthfwlio i Ferthyr Tudful a'i phrif amcanion yw:

  • Lleihau pa mor aml mae bwlio yn digwydd
  • Cynyddu'r tebygrwydd bod digwyddiadau'n cael eu datgelu i oedolion cyfrifol
  • Ymyrryd yn effeithiol pan ddigwydd bwlio

I gyflawni'r amcanion hyn, nod y strategaeth yw:

  • Darparu polisi ac arweiniad gwrthfwlio enghreifftiol i ysgolion gan gynnwys sefydlu gweithdrefnau effeithiol ar gyfer cofnodi ac ymdrin ag achosion o fwlio.
  • Casglu gwybodaeth am achosion o fwlio yn ein hysgolion i hysbysu datblygiad polisïau yn y dyfodol.
  • Cefnogi ysgolion wrth fynd i'r afael â materion bwlio, er enghraifft yn uniongyrchol trwy ddulliau cefnogi presennol megis Athrawon Cymorth Ymddygiad a Swyddogion Cynhwysiant neu atgyfeiriadau i asiantaethau allanol eraill.
  • Sefydlu system i godi ymwybyddiaeth o faterion bwlio, gan gynnwys rhannu arfer effeithiol ac adnoddau defnyddiol.

Gallwch lawr lwytho copi o'r strategaeth wrthfwlio sydd ar gael yn y ddolen dogfennau ar ochr dde'r dudalen hon.

Os ydych yn pryderu bod eich plentyn yn cael ei fwlio mae cyngor ac arweiniad pellach ar gael ar ymdrin â bwlio yn y strategaeth wrthfwlio.

Os ydych yn blentyn sy'n cael eich bwlio mae cymorth a chefnogaeth ar gael yn y strategaeth wrthfwlio

Mae'r strategaeth ddrafft hefyd yn cynnwys rhestr o adnoddau a sefydliadau defnyddiol sy'n ymdrin ag ystod o faterion bwlio, gan gynnwys seiberfwlio.

Cysylltwch â Ni