Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llais Disgyblion

Mae pwysigrwydd mawr yn cael ei roi ar lais y disgybl ym Merthyr Tudful.

Mae gan bob ysgol system yn ei lle i ddatblygu arweiniad disgybl. Maent yn amrywio o Gyngor yr Ysgol i Senedd yr Ysgol. Mae pwyllgorau o’r fath yn cynnwys arweinwyr digidol, arweinwyr eco ac arweinwyr llesiant i enwi rhai yn unig!

Mae cynrychiolaeth gref o bobl ifanc yn yr amrywiaeth eang o wasanaethau i’r ifanc a chymorth i’r ifanc sydd yn cael eu cynnig. Enghreifftiau yw rhaglenni blasu i’r ifanc, rhaglenni gwydnwch a phrosiectau sydd yn cael eu harwain gan yr ifanc fel Cynllun Ffasiwn Clwb Bechgyn a Merched Georgetown, Cynllun Treftadaeth Clwb Bechgyn a Merched Treharris a’r Fforwm Ieuenctid ar gyfer y Fwrdeistref Gyfan yn yr Academi Llwyddiant blynyddol.

Mae’r awdurdod lleol yn darparu cyfleoddd i’r ifanc gael clywed eu lleisiau drwy’r Fforwm Ieuenctid ar gyfer y Fwrdeistref Gyfan yn ogystal â swyddogaeth Swyddfa Maer yr Ieuenctid a’i Ddirprwy.

Mae’r dull hwn wedi galluogi pobl ifanc i ymgysylltu â’r broses o wneud penderfyniadau, siarad yn annibynnol a herio’r awdurdod lleol ac mae wedi ei gydnabod fel ymarfer da yn Nyfarniad Ansawdd Efydd yr Asesiad ar gyfer Gwaith Ieuenctid yn Nachwedd 2021 ac archwiliad Estyn yr ALl yn Ionawr 2022. 

Mae Maer yr Ieuenctid a’r Dirprwy yn cydgadeirio’r Bwrdd Partneriaeth Strategol ar gyfer Cynllun Nadroedd ac Ysgolion y Loteri Genedlaethol ac mae nifer o bobl ifanc Cabinet yr Ifanc yn aelodau o’r Panel Ieuenctid Ymgynghorol. Mae hyn yn rhoi llais a dylanwad uniongyrchol i bobl ifanc wrth ddatblygu a siapio’r prosiect wrth iddo symud yn ei flaen i’r cam darparu. 

Cynhadledd Myfyrwyr Ysgolion

Mae’r Gynhadledd Myfyrwyr Ysgolion flynyddol yn darparu cyfle i bobl ifanc ddysgu, datblygu a chydweithio â phlant a phobl ifanc, ledled yr Awdurdod ar ‘bynciau llosg.’

Disgyblion Merthyr Tudful yn fwy hyddysg mewn ‘pynciau bywyd’ yn sgil cynhadledd flynyddol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Disgyblion Merthyr Tudful yn wybodus ynghylch ‘problemau bywyd,’ o ganlyniad i gynhadledd flynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Roedd newid amgylchedd a hinsawdd yn themâu pwysig yn ystod 2022-23 a datblygodd pobl ifanc ymgynghoriad yr ifanc ar y themâu hyn yn y Gynhadledd Ysgolion yng Ngorffennaf 2022. Mae canlyniadau’r ymgynghoriad wedi cael eu hymgorffori yn Siarter Hinsawdd Ysgolion Merthyr Tudful a ddatblygwyd gan yr Adran Ddysgu. Cafodd y Siarter ei datblygu gan blant a phobl ifanc, ledled Ysgolion Merthyr Tudful a’i lansio yn Ysgol Gynradd Coed y Dderwen.

Siarter Hinsawdd Ysgolion Merthyr Tudful

Pobl ifanc Merthyr Tudful yn falch i lansio Siarter Hinsawdd: 10 addewid i gynorthwyo’n planed | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Mae Cynhadledd y Myfyrwyr hefyd yn lwyfan i drafodaethau sydd yn ymwneud â diogelu. Datblygwyd a lansiwyd animeiddiad i hysbysu cyd-ddisgyblion o ‘Beth yw diogelu’ a ‘sut i sôn amdano.’ Mae’r digwyddiadau hyn hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynychu gweithdai rhyngweithiol ag amrywiaeth o sefydliadau fel Heddlu De Cymru,  Barnardos, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth yr Ifanc, Gemau Stryd, Taclo’r Taclau a llawer rhagor sydd yn darparu negeseuon diogelu, pwysig. Roedd adborth o’r digwyddiadau’n gadarnhaol; gan athrawon a chyfranogwyr.

Cysylltwch â Ni