Ar-lein, Mae'n arbed amser

Chwilio am Swydd, Cymorth Gyrfa

Ydych chi’n gymwys?

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn cefnogaeth oddi wrth Ysbrydoli i Weithio rhaid i’r meini prawf canlynol fod yn bresennol:

  • Rhaid i chi fod rhwng 16-19 oed
  • rhaid i chi beidio â bod mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
  • os ydych yn 16-18 oed ac wedi’ch cofrestru â Gofalwyr Cymru, yna mae haenau statws 1,2 a 3 yn gymwys
Y Broses Gyfeirio

Gallwch gyfeirio eich hunan drwy gwblhau Adran 1 Ffurflen Mynegi Diddordeb Ysbrydoli i Weithio.

Neu, gall eich Cynghorydd Gyrfa Cymru neu Hyfforddwr Gwaith DWP gwblhau’r un ffurflen. Gan fod Gyrfa Cymru a DWP yn brif asiantaethau cyfeirio yna mae angen cwblhau Adran 1 ac Adran 2a.

Caiff pob asiant trydydd parti arall eu croesawu hefyd i gyfeirio a byddai angen cwblhau Adran 1 ac Adran 2b.

Rhaid dychwelyd y ffurflenni i’r cyfeiriad isod:

Swyddog Ysbrydoli i Weithio 
Canolfan Addysg Gymunedol Pen y Dre
Campws Ysgol Uwchradd Pen y Dre
Ystâd Gurnos
Merthyr Tudful
CF47 9BY