Ar-lein, Mae'n arbed amser
Parciau a mannau agored tirlunio
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn gofalu am 619 hectar o fannau agored sy'n eiddo i'r cyhoedd. Rydym yn credu ei bod yn bwysig i edrych ar ôl, gwarchod a datblygu ein Parciau a Mannau Agored Cyhoeddus o Barc Cyfarthfa i'n meysydd chwarae bach a mannau "carreg y drws" o fewn ein hardaloedd preswyl.
Mae ein parciau, caeau chwaraeon, meysydd chwarae, tir ysgolion ac ati yn ychwanegu at y rhwydwaith o fannau gwyrdd sy'n cyfrannu at gymeriad y Fwrdeistref Sirol. Maent yn meithrin balchder yn lleol ac yn cyfrannu'n allweddol at ddelwedd y Fwrdeistref Sirol.