Cynllun y Bathodyn Glas
Mae Cynllun y Bathodyn Glas yn fenter genedlaethol a’i fwriad yw darparu consesiynau i bobl gymwys fel y gallant barcio’n agos at y cyfleusterau a’r gwasanaethau y mae angen iddynt eu defnyddio. Drwy hynny, gallant wella eu ffordd o fyw, eu hannibyniaeth a’u rhyddid i ddewis.
Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas eich hun, neu gall perthynas wneud cais ar eich rhan.
Nid oes rhaid i berson yrru i wneud cais am fathodyn glas. Mae’r bathodyn ar gyfer yr unigolyn a gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw gar y mae’r unigolyn yn teithio ynddo, fel gyrrwr neu deithiwr.
Mae angen ichi wneud cais newydd am Fathodyn Glas bob 3 blynedd neu cyn y dyddiad dirwyn-i-ben os yn gynt. Ni fydd yn cael ei adnewyddu’n awtomatig.
Mae croeso i chi wneud cais neu adnewyddu’ch cais ar-lein: www.gov.uk/apply-blue-badge
Os oes angen, gallwch hefyd anfon dogfennau ategol trwy e-bost. Anfonwch nhw i blue.badges@merthyr.gov.uk
Os oes angen i chi siarad â rhywun, ffoniwch 01685 725000.