Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gyrru

Pass Plus Cymru

17 - 25 Oed ac Wedi Pasio Eich Prawf Gyrru?

Mae Cyrsiau Pass Plus Cymru wedi'u cymorthdalu ar gael i yrwyr 17 - 25 oed, yn cynnig 6 awr o brofida gyrru gwerthfawr iddynt.

Ers nifer o flynyddoedd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi rhedeg cyrsiau Pass Plus Cymru a fwriedir i fynd i’r afael â’r nifer uchel o yrwyr a theithwyr ifanc a ledir ar y ffordd.

Beth yw Pass Plus Cymru?

Mae Pass Plus Cymru yn gwrs Pass Plus manylach y gallwch ei wneud ar ôl pasio’ch prawf gyrru. Trwy adeiladu ar eich sgiliau gyrru, eich gwybodaeth a’ch ymwybyddiaeth o beryglon, bydd y cwrs yn eich cynorthwyo i leihau’r risg o fod mewn damwain, a gallech fod yn gymwys i gael disgownt gan nifer o gwmnïau yswiriant.

Mae cwrsPass Plus Cymru yn adeiladu ar ragleb Pass Plus yr Asiantaeth Safonau Gyrru ac mae’n cynnwys fforwm grŵp trafod rhyngweithiol sy’n para dwy awr a hanner a hyfforddiant ymarferol yn y car dan ofal uwch-hyfforddwyr gyrru cymwys.

Mae’r cynllun Pass Plus yn cynnwys:

  • Gyrru mewn Tref
  • Gyrru yng Nghefn Gwlad
  • Gyrru ym mhob tywydd
  • Gyrru yn ystod y Nos
  • Gyrru ar Ffordd Ddeuol
  • Gyrru ar Draffordd
  • Trafodir hefyd ymwybyddiaeth o beryglon, canolbwyntio, cyflymder, gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, agweddau ac ymddygiad diogel.

Am ragor o wybodaeth a chadw lle, ffoniwch 08450 50504255 neu mewngofnodwch yn www.dragondriver.com a chliciwch ar logo Pass Plus Cymru. Fel arall, cysylltwch â’r Tîm Diogelwch  ar y Ffyrdd ar roadsafety@merthyr.gov.uk neu ffoniwch 01685 725000.

Mae’r cwrs yn costio £20 ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn cymorthdalu’r gost o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cysylltwch â Ni