Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cynllun Swyddog Iau Diogelwch Ffyrdd
Mae Swyddogion Iau Diogelwch Ffyrdd yn help enfawr i’r Swyddog Diogelwch Ffyrdd lleol.
Gwaith Swyddogion Iau Diogelwch Ffyrdd yw helpu i hybu materion diogelwch ffyrdd yn yr ysgol a’r gymuned leol. Mae bod yn Swyddog Iau Diogelwch Ffyrdd yn rôl bwysig ond hefyd yn llawer o hwyl!
Rhaid i Swyddogion Iau Diogelwch Ffyrdd:
- Ofalu am hysbysfwrdd diogelwch ffyrdd a sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf arni
- Siarad mewn gwasanaethau a dosbarthiadau am faterion diogelwch ffyrdd
- Cynnal cystadlaethau yn yr ysgol
- Cysylltu â’r swyddog diogelwch ffyrdd lleol i adrodd nôl
Mae gan Swyddogion Iau Diogelwch Ffyrdd yng Nghymru’u gwefan eu hunain. Ewch i weld beth mae Awdurdodau eraill yn ei wneud!