Ar-lein, Mae'n arbed amser
Hysbysu am lwythi annormal
Diffinnir llwythi anormal yng Ngorchymyn Cerbydau Ffordd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) 2003 a’r Gorchmynion Diwygio Dilynol fel unrhyw gerbyd sy’n drymach nag o leiaf un o’r cyfyngiadau canlynol:
- Pwysau gros ros 40/44 tunnell fetrig
- Uchder dros 5.03 medr
- Lled dros 3.0 medr
- Hyd dros 28.0 medr (Os yw’n gerbyd anhyblyg, caniateir uchafswm 18.75 medr)
Ein cyfrifoldebau
Fel awdurdod priffyrdd, rydym yn gyfrifol am awdurdodi holl symudiadau cerbydau llwythi annormal sy’n defnyddio ffyrdd a gaiff eu cynnal a’u cadw gan y cyngor - nid cefnffyrdd.
Dylid ein hysbysu am lwythi annormal gan ddefnyddio ffacs neu e-bost, 2-5 diwrnod cyn y symudiad arfaethedig. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod. Bydd manylion y symudiad arfaethedig yn cael eu gwirio yn erbyn cofnodion uchder a chyfyngiadau pwysau pontydd, ac addasrwydd y llwybr a ddilynir.