Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwneud cais neu adrodd am raenu
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn gwneud cais am raeanu, ail-lenwi bin graean neu am fin graean.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fel yr Awdurdod Priffordd sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw yn ystod y gaeaf. Mae hyn yn ein galluogi ni i gynorthwyo’r cyhoedd sy’n teithio i ddefnyddio rhwydwaith ffyrdd y fwrdeistref sirol gyda diogelwch rhesymol drwy gydol tywydd gwael y gaeaf. Ein nod yw cynnal neu ailosod llif traffig rhydd a diogel mor gyflym ag sy’n bosibl, ar bob llwybr drwy gydol cyfnod y gaeaf ac i sicrhau fod cerbydau a cherddwyr yn gallu eu defnyddio’n ddiogel.
Sut ydyn ni’n penderfynu pryd i drin y ffyrdd?
Rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth caiff rhagolygon y tywydd eu derbyn yn ddyddiol oddi wrth Ddarparwr Rhagolygon y Tywydd. Maen nhw’n cael eu dadansoddi’n ofalus iawn a chaiff penderfyniad ei wneud ar ba weithredu sy’n ofynnol y diwrnod hwnnw.
Pan na fydd y rhagolygon yn rhoi arwydd clir o rew neu eira, gall y Cyngor ddefnyddio nifer o synwyryddion ffordd ledled y sir, sy’n gallu rhoi gwybodaeth gyfredol i’r funud am dymheredd y ffordd.
Pryd ydyn ni’n dechrau aredig yr eira?
Rydyn ni fel arfer yn dechrau defnyddio’r aradr eira pan fydd yr eira wedi cyrraedd dyfnder o ryw 50mm. Caiff erydr eira dynodedig eu defnyddio ac yn ogystal â chlirio’r eira, byddant yn gadael halen ar wyneb y ffordd i helpu i leihau olion eira a rhew.
Biniau Graean
Am fod biniau graean yn gallu cael eu fandaleiddio neu eu camddefnyddio, maen nhw’n cael eu darparu pan fo gwir angen amdanynt yn unig. Caiff cais am fin graean mewn lleoliad newydd ei ystyried yn erbyn amrywiol feini prawf a’i ddarparu ddim ond os bydd yr angen amdano’n cael ei gyfiawnhau.
Sut ydw i’n rhoi gwybod am fin graean gwag?
Er ein bod ni’n monitro ac yn ail-lenwi biniau graean yn rheolaidd, yn ystod y tywydd oer, mae’n bosibl y bydd lefel y graean yn y biniau hyn yn mynd yn is.