Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rhwystrau

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn hysbysu am rwystr ar y briffordd.

Y mae’n drosedd peri rhwystr i dramwyfa rydd y briffordd. Mae rhwystrau’n cynnwys gwrthrychau sydd wedi cael eu gosod ar y briffordd neu sydd yn bargodi drosti.

Dyma enghreifftiau o rwystrau o’r fath:

  • sgipiau adeiladwyr heb eu hawdurdodi
  • sgaffaldiau/byrddau hysbysebu heb eu hawdurdodi
  • Carafanau ar briffyrdd mabwysiedig
  • deunyddiau adeiladu
  • gwaith dros dro heb ei awdurdodi, yn cynnwys goleuadau traffig
  • canghennau coed a llwyni sy’n gwyro
  • mwd/malurion anghyfreithlon ar y ffordd
  • cymysgu concrid/mortar yn anghyfreithlon ar y briffordd
  • gwerthwyr/masnachwyr anghyfreithlon (gweler hefyd – Trwydded masnachwyr stryd)
  • llechfeddiant anghyfreithlon o ffiniau priffyrdd
  • gollwng dŵr ar y briffordd yn anghyfreithlon
  • rhwystro 'Hawliau Tramwy' yn anghyfreithlon
  • planhigion a llwyni anghyfreithlon
  • arwyddion anghyfreithlon

Bydd llechfeddiannau yn digwydd lle bydd perchnogaeth rhannau o’r priffyrdd wedi’u pennu’n gyfreithlon.

Os bydd person heb awdurdod cyfreithiol nac esgus yn rhwystro teithio dirwystr ar briffordd, byddant yn euog o drosedd. Mewn achosion o’r fath, mae gan yr Awdurdod Priffyrdd bwerau cyfreithiol i orfodi eu symud.

Cerbyd ar y briffordd – Os yw’r broblem yn ymwneud â cherbydau sy’n rhwystro’r briffordd, dylech gysylltu â Heddlu De Cymru drwy ffonio 101.