Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llygredd Aer

Llygredd Atmosfferig ac Ansawdd Aer

Ansawdd Aer

Mae ansawdd aer yn dynodi pa mor iach yw’r aer yr ydym yn ei anadlu. Mae llygredd aer yn arwain at ansawdd aer gwael. Gall hyn effeithio ar iechyd dynion, anifeiliaid a phlanhigion a’r amgylchedd.

Caiff llygredd aer ei achosi gan lygryddion naturiol a llygryddion gwneud. Ymhlith y llygryddion sy’n peri pryder mae: carbon monocsid, bensen, 1,3-bwtadien, plwm, nitrogen deuocsid, oson, sylffwr deuocsid a gronynnau.

Monitro a gwella ansawdd aer

Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd 1995 system o Reoli Ansawdd Aer yn Lleol ar gyfer y DU i sicrhau fod crynodiadau llygryddion oddi fewn i’r Safonau Ansawdd Aer Cenedlaethol, a gynlluniwyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd.

Rydym wedi dynodi bod nitrogen deuocsid, llygrydd sy’n gysylltiedig ag allyriadau cerbyd, yn llygrydd aer sydd angen ei fonitro ledled y fwrdeistref. Nid oes angen monitro llygryddion eraill ar hyn o bryd.

Rydym yn monitro nitrogen deuocsid ledled y fwrdeistref drwy ddefnyddio monitro awtomatig a monitro nad yw’n awtomatig.

Am ragor o wybodaeth gweler Gwefan Ansawdd Aer Defra ac  Ansawdd Aer yng Nghymru.

Yn ogystal â monitro ansawdd aer mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i adolygu yn gyfnodol ansawdd aer yn ei ardal. Mae Asesiadau Diweddaru a Sgrinio ac Adroddiadau Cynnydd o 2015 ymlaen ar gael bellach. Gellir gweld adroddiadau cyn y dyddiad hwn ar gais.

Yn ychwanegol at fodloni gofynion statudol sylfaenol LAQM mae’r Cyngor hefyd yn cymryd ymagwedd broactif tuag at ddiogelu iechyd y cyhoedd. Fel rhan o’r ymagwedd hon y mae wedi cynorthwyo, ynghyd â Bwrdd Iechyd Cwm Taf a Chyngor Rhondda Cynon Taf, mewn ymchwil a gyflawnwyd gan Huw Brunt a Sarah Jones o Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu dull newydd o asesu risgiau ansawdd aer i iechyd y cyhoedd. Cafodd y dull hwn, sy’n cydweddu LAQM, ei gynllunio i gynorthwyo wrth dargedu adnoddau’r Awdurdod Iechyd a’r Awdurdod Lleol mewn ardaloedd ble mae’r boblogaeth fwyaf bregus o ran effeithiau llygredd aer. Caiff dolen ei darparu yma i’w papur cyhoeddedig, Ymagwedd bragmataidd sy’n cael ei lywio gan iechyd cyhoeddus i wella rheoli risg asesiad ansawdd aer lleol yng Nghymru, DU.

Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer

Ar 30 Ionawr 2017 cafwyd datganiad o Ardal Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA). Mae’r ardal yn cynnwys Heol Twynyrodyn o’r gylchfan ar y pen Gorllewinol  (Tesco) hyd at y groesffordd rhwng Gilfach-Cynon a Maes Arfryn. Roedd yn angenrheidiol datgan ARhAA gan fod lefelau nitrogen deuocsid yn uwch na’r Nod Ansawdd Aer Cenedlaethol mewn nifer o leoliadau monitro ar hyd y darn hwn o’r ffordd. Am ragor o wybodaeth mae Asesiad Ansawdd Aer Manwl a map o’r ardal ar gael bellach. 

Y cam nesaf i wella ansawdd aer yw y bydd yr Awdurdod Lleol yn dyfeisio cynllun gweithredu. Yn dilyn ymgynghoriad â rhanddeiliaid perthnasol, bydd mesurau oddi fewn i’r cynllun hwnnw’n cael eu gweithredu er mwyn lleihau nitrogen deuocsid i lefelau derbyniol.

Beth gallaf ei wneud i wella ansawdd aer?

Mae cerbydau ffordd yn brif ffynhonnell llygryddion aer. Gallwch helpu drwy:

  • Osgoi defnyddio eich car ar gyfer teithiau byr.
  • Peidiwch â dechrau eich car nes eich bod yn barod i yrru i ffwrdd.
  • Gyrrwch yn llyfn, peidiwch â brecio’n drwm na chyflymu’n gyflym na defnyddio’r sbardun yn ddianghenraid.
  • Cofiwch gynnal a chadw eich car a chadw’r pwysedd cywir yn y teiars.
  • Ceisiwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ble y bo’n bosibl.