Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ymgynghoriadau Cynllunio

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL NEWYDD MERTHYR TUDFUL 2016-2931: HYSBYSEB PARTHED YMGYNGHORIAD YNGHYLCH Y NODYN CANLLAW CYNLLUNIO YCHWANEGOL

Mabwysiadodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl) ym mis Ionawr 2020. Mae’r CDLl newydd yn darparu fframwaith i’r polisi cynllunio cyfredol, sef y polisi fyddwn yn ei ddefnyddio i arwain datblygiad yn y Fwrdeistref Sirol hyd at 2031. Fel rhan o broses y CDLl, cydnabuwyd y byddai ambell i fan polisi penodol yn elwa o gyfarwyddyd ychwanegol er mwyn eglurhau sut y bydd polisïau penodol y CDLl yn cael eu gweithredu.

Mae’r adran Polisi Cynllunio wedi cynhyrchu Nodyn Canllaw Cynllunio Ychwanegol (CCY) sydd nawr yn agored i ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o wyth wythnos:

Mae copïau caled o’r dogfennau ar gael i’w harchwilio yn y Ganolfan Ddinesig, Uned 5 a llyfrgelloedd y Cyngor. Rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau parthed y Canllaw Cynllunio Ychwanegol yn ysgrifenedig a rhaid i’r Cyngor eu derbyn erbyn canol nos ar ddydd Llun y 25ain o Fedi 2023. Gellir anfon sylwadau’n electronig at devplanning@merthyr.gov.uk neu eu postio at: Rheolwr y Gwasanaethau Cynllunio, Uned 5, Parc Busnes Triongl, Pentrebach, Merthyr Tudful, CF48 4TQ.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch sut i gyflwyno eich sylwadau, neu unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â’r Tîm Polisi Cynllunio drwy e-bostio devplanning@merthyr.gov.uk neu drwy ffonio 01685 726277 a gofynnwch i siarad gydag aelod o’r Tîm Polisi Cynllunio.

Cysylltwch â Ni