Ar-lein, Mae'n arbed amser
Archwiliad CDLl – Sesiynau Gwrandawiad
Bydd y sesiynau gwrandawiad yn dechrau ddydd Mawrth 25 Mehefin 2019 am 10:00. Bydd amseroedd dechrau sesiynau’r gwrandawiad yn amrywio felly gwiriwch y rhaglen yn ofalus. Caiff pob sesiwn gwrandawiad ei gynnal yng Nghanolfan Orbit, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1DL oni nodir fel arall.
Amserlen y gwrandawiadau a chyfranogi mewn sesiynau
Gellir gweld/lawrlwytho pdf o’r Rhaglen Wrandawiadau Ddrafft [ED003] yn amlinellu’r amserlen, y pynciau mae’r Arolygydd am eu harchwilio a’r cyfranogwyr a wahoddwyd, o wefan Dogfennau’r Archwiliad. Noder fod y Rhaglen Wrandawiadau Drafft a’r amserlen ganlynol yn amodol ar newid.
Bydd y dolenni canlynol yn darparu gwybodaeth am bob sesiwn gwrandawiad gan gynnwys nodyn o gyfranogwyr a wahoddwyd, agendâu materion a phroblemau, unrhyw ddatganiadau pellach oddi wrth y Cyngor a chynrychiolwyr a baratowyd fel ymateb i Faterion a Phroblemau’r Arolygydd ar gyfer y sesiwn perthnasol ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig.
Dyddiad cau cyflwyno datganiadau – ganol dydd ar 11 Mehefin 2019
WYTHNOS 1:
Gwrandawiad 1: Mawrth 25 Meh 2019 am 10:00 – Paratoad, gweledigaeth a nodau’r cynllun
Gwrandawiad 2: Mawrth 25 Meh 2019 am 13:00 – Strategaeth, cyflenwi ac isadeiledd y Cynllun
Gwrandawiad 3: Mer 26 Meh 2019 am 10:00 – Tai
Gwrandawiad 4: Iau 27 Meh 2019 am 10:00 – Dyraniadau safleoedd strategol a safleoedd tai
Gwrandawiad 5: Gwen 28 Meh 2019 am 10:00 – Datblygiad masnachol, manwerthu, hamdden a thwristiaeth
WYTHNOS 2:
Gwrandawiad 6: Mawrth 2 Gorff 2019 am 10:00 – Polisïau Rheoli Datblygiad 1
Gwrandawiad 7: Mer 3 Gorff 2019 am 10:00 – Polisïau Rheoli Datblygiad 2
Gwrandawiad 8: Iau 4 Gorff 2019 am 10:00 – Ynni adnewyddadwy, mwynau, monitro a materion eraill
WYTHNOS 3:
Gwrandawiad 9: Dydd Mercher 21 Awst 2019 am 10:00 - Cyflenwad Tir Tai a dyraniadau safle