Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ardal Dreftadaeth Pontmorlais

Beth yw Fenter Treftadaeth Treflun MTT?

Mae’r Fenter Treftadaeth Treflun (MTT) yn gynllun grant i wella adeiladau hanesyddol o dan raglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL). Prif amcanion y fenter yw cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch rhinweddau’r dreftadaeth adeiledig ac annog pobl yn ôl i Ardal Dreftadaeth Pontmorlais. Diben hyn yw sicrhau atgyweirio ac ailosodiad traddodiadol o ansawdd uchel drwy annog ceisiadau grant. Y nod yw gwella delwedd a chymeriad y bensaernïaeth ac atgyfnerthu ei nodweddion nodedig wrth gynorthwyo i gyflawni amcanion   Erthygl 4 Cyfeiriadau.

Cynllun Grant MTT

Caiff y cynllun ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) gydag arian oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Blaenau’r Cymoedd.

Bydd Prosiect MTT Pontmorlais yn para 5 mlynedd (Hydref 2011 i Medi 2016) yn amodol ar argaeledd yr arian oddi wrth yr holl bartneriaid sy’n cyfrannu. Dylid nodi, fodd bynnag, y bydd rhaid gwneud pob cais o fewn y 3 blynedd cyntaf, fel bod yr holl waith a gaiff ei wneud â chymorth grant yn gallu cael ei gwblhau a phob cais am daliad ei dalu erbyn diwedd blwyddyn 5 (Medi 2016).

Cymhwyster

Rhaid bod adeiladau sy’n gymwys am gymorth grant wedi eu lleoli o fewn ardal ddynodedig MTT. Rhaid i’r ymgeisydd un ai fod yn rhydd-ddeiliad yr adeilad neu’n berson sy’n dal les am dymor dim llai na 10 mlynedd, heb gymal torri, ar y dyddiad y gwnaed y cais. Mae isafswm o £10,000 ac uchafswm o £400,000 wedi cael eu gosod. Mae’r rhain a chyfraddau grant yn amodol ar adolygiad yn ôl galw ac argaeledd.

Cyfraddau Grant

Atgyweirio Adeiladau: Os oes angen atgyweirio strwythurol ar adeilad neu welliannau allanol fel atgyweirio toi, eu cribau, simneiau a fflachiau; atgyweirio nwyddau dŵr glaw, drysau a ffenestri; ail-bwyntio neu ail-rendro’r waliau ac yn y blaen yna mae grant o 75% ar gael. Nid yw hyn yn cynnwys cynnal a chadw ailaddurno, nac atgyweiriadau mewnol yn unig.

Adfer manylion treftadaeth: Mae adeiladau sydd wedi colli nodweddion pensaernïol gan gynnwys casment a ffenestri sash, drysau ffrynt, cyrn simnai a staciau a mowldiau yn gymwys am grant o 90% i’w hail-adfer.

Gwagle llawr gwag: Mae grant o 50% ar gael i wneud gwaith ar wagle llawr gwag er mwyn ei ddefnyddio eto. Bydd hyn yn cynnwys, ble y bo’n angenrheidiol, creu mynediad newydd o’r lefel gwaelod i’r lloriau uchaf a gwneud y strwythur mewnol o’r gwagle llawr gwag hwn yn ddiddos. Ni fydd yn cynnwys gwelliannau trydanol, mecanyddol na gwaith plymio nac ail-ddylunio’r gwagle.

Ffioedd Proffesiynol: Mae ffioedd proffesiynol a gweithredu rhagarweiniol ar gontractau hefyd yn gymwys am grant o 75%.

Canllawiau ad-dalu

Y mae’n bwysig nodi fod yr MTT yn gynllun grant cadwraeth i bob pwrpas gyda phwyslais yn cael ei osod ar ddulliau traddodiadol a deunyddiau sy’n briodol i’r adeilad ble bynnag y bo’n bosibl, er enghraifft, nid yw ffenestri UPVC yn dderbyniol. Disgwylir safon uchel o grefftwaith ar gyfer yr holl waith. Mae grantiau yn ad-daladwy os yw’r perchennog yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth o’u diddordeb yn yr eiddo o fewn cyfnod penodol. Bydd ad-daliad o gyfran o’r grant yn ofynnol fel y gwêl yr awdurdod lleol a phartneriaid eraill yn briodol. Ar gyfer grantiau hyd at £25,000 bydd yr amod yn gymwys am 5 mlynedd ers derbyn y grant. Ar gyfer grant o £25,000 ac uwch bydd yn gymwys am 10 mlynedd o’r dyddiad y cafodd taliad olaf y grant ei dalu.

Cymorth Pellach

Mae Swyddog MTT Pontmorlais wedi cael ei benodi’n arbennig i roi cyngor a chymorth i chi gyda’r ffurflenni cais perthnasol. Os oes angen caniatâd arall arnoch fel Caniatâd Cynllunio, Caniatâd Adeiladau Cofrestredig neu Reoliadau Adeiladu, bydd y Swyddog MTT yn rhoi cyngor i chi ynghylch sut i ymgeisio. Os oes diddordeb gennych mewn cael grant, cysylltwch â’r Swyddog MTT i gael pecyn ymgeisio ac i drefnu i gwrdd ar y safle neu gael trafodaeth anffurfiol.

Cysylltwch â Ni