Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gofal Cartref

Cynnal eich annibyniaeth

Gallai gwasanaeth gofal cartref eich helpu chi wrth roi cymorth yn eich cartref eich hun gyda thasgau fel cymorth â gofal personol, sy’n cynnwys ymolchi a gwisgo. Gall gofal cartref ddarparu cymorth gydag agweddau penodol neu amrywiaeth o dasgau a gall fod am ychydig o oriau’r wythnos hyd at llawn amser.

Sut gallaf gael Gwasanaeth Gofal Cartref?

Os ydych chi’n meddwl y gallai fod gennych chi neu rywun rydych yn ei adnabod anabledd corfforol, nam ar y clyw neu’r golwg, salwch terfynol, yn datblygu dryswch/dementia, yn fregus, yn oedolyn mewn perygl o gael ei esgeuluso neu ei gam-drin, ag anabledd dysgu, â phroblem iechyd meddwl, yn gadael yr ysbyty neu’n ofalwr ag angen Gwasanaeth Gofal Cartref, er mwyn eich helpu chi neu’r person yr ydych yn ei adnabod i aros gartref, bydd angen i chi gysylltu â’r Cyngor. Pan fyddwch yn cysylltu â’r Swyddog Dyletswydd, byddant yn archwilio’r holl anawsterau yr ydych yn eu hwynebu gyda chi, yn ogystal â’r ffyrdd yr ydych yn rheoli’r heriau hyn ar hyn o bryd. Byddant hefyd eisiau gwybod beth ydych chi’n gobeithio gallu parhau i’w wneud, neu beth yr hoffech fod yn gallu ei gyflawni. Caiff hyn ei gwblhau ar ffurf asesiad.

Os mai canlyniad yr asesiad yw y gallai fod angen help arnoch oddi wrth wasanaethau gofal cartref, bydd y swyddog dyletswydd yn trefnu i chi gael cymorth oddi wrth y Gwasanaeth Ymateb Cychwynnol. Mae’n bosibl y byddant hefyd yn trefnu i chi gael cymorth gan y Gwasanaeth Ailalluogi. Bydd y gwasanaethau hyn yn darparu cymorth i chi i ddyfod yn fwy annibynnol yn eich cartref eich hun. Gellir darparu’r cymorth hwn am gyfnod o hyd at 6 wythnos. Fodd bynnag, ceir cyfnod adolygu parhaus sy’n digwydd yn ystod yr amser hwn.

Yn dilyn cymorth Ymateb Cychwynnol ac Ailalluogi, os oes angen Gwasanaeth Gofal tymor hirach arnoch a’ch bod chi’n gymwys am ofal a chymorth, yna caiff hyn ei drafod â chi. Bydd cynllun gofal a chymorth yn cael ei ysgrifennu a bydd swyddog asesu ac adolygu ac yn trefnu pecyn gofal ar eich cyfer gydag un o’n darparwyr annibynnol. Neu gall hyn fod yn opsiwn i chi ei drafod p’un a ydych am ddefnyddio Taliad Uniongyrchol neu brynu’r gwasanaeth yn uniongyrchol.

Cysylltwch â ni:

Swyddog Dyletswydd i Oedolion
Parc Iechyd Keir Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ

Ffôn: 01685 725000
E-bost: adult.intakeservice@merthyr.gov.uk

Oriau Agor

8.30yb - 5.00yp Dydd Llun - Dydd Iau
8.30yb - 4.30yp Dydd Gwener

DEWIS Cymru